arno;—pan y cofiom y llwyddiant a fu arno o'r dechreu yn y ffurf cyntefig, a phan y cofiom hefyd, y gwrthwynebiad cryf a phenderfynol a ddangosid, gan y gweinidogion urddedig yn y corff, i'r newydd-beth hwn, a'r perygl o ymraniad niweidiol, yn enwedig yn y Deheubarth, os cymerai dim newidiad le; y mae yn hawdd gweled rheswm digonol i fod yn bwyllog ac araf. O'r ochr arall, yr oedd y perygl yn llawn cymaint, neu yn wir yn llawer mwy, os na chymerid cam yn mlaen. Bernid fod y llwyddiant mawr, a roddasid eisoes ar Fethodistiaeth, yn galw am yr ysgogiad hwn, yn lle ymfoddloni i'r gyfundrefn flaenorol. Yr oedd Gwynedd yn neillduol o amddifad o'r ordinhadau arwyddol; nid oedd yn y Gogledd oll ond tri offeiriad; a chan fod yr eglwysi, bellach, wedi lluosogi yn ddirfawr, er ys triugain mlynedd, fod yn rhaid gwneuthur rhyw ddarpariaeth tuag at ddiwallu eu hanghenion. Nid oes amheuaeth na chostiodd yr amgylchiad lawer meddwl pryderus, llawer awr ddigwsg, a llawer ochenaid drom, i Mr. Charles, a chafodd ei wrando yn yr hyn a ofnodd. Disgynodd ar y moddion cymhwysaf ar y pryd i gyfarfod â holl amgylchiadau y pwnc, a derbyniwyd y cynllun a barotoisai efe, gyda llai o eithriaid o lawer nag a ddysgwyliasid. Ymlonyddodd y cyfundeb yn y canlyniad, gan lochesu syniadau llawn mor barchus am Mr. Charles ag o'r blaen. "Diolchwyd i Dduw a chymerwyd cysur."
Yr oedd Mr. Charles wedi ei gynysgaethu a chorff lled gryf, ac â iechyd Iled dda, ar y cyfan; ond yn y fl. 1799, wrth deithio dros fynydd Mignaint, yn nechreu y gauaf, ymaflodd oerfel dwys yn mawd ei law aswy, yr hwn a barodd iddo ddolur poenus a maith; a barnodd y meddygon yn mhen rhyw amser, nad oedd modd achub ei fywyd ond trwy ei thori ymaith. Parodd yr amgylchiad hwn drallod anarferol, nid yn unig i Mr. Charles ei hun a'i deulu, ond hefyd i'w frodyr crefyddol yn y dref,—cymaint felly ag yr ymgynullodd nifer i weddio drosto. Daliwyd sylw neillduol ar erfyniad un brawd, o'r enw Richard Owen, pan yn gweddio drosto. Yr oedd y gweddiwr yn hen wŵr nodedig am ei dduwioldeb, a'i gymdeithas a Duw mewn gweddi. Yn ei weddi, cyfeiriai at yr estyniad oes a roddwyd gynt i Hezecia, ac archai ar i Dduw estyn i Mr. Charles yr un gymwynas. "Pymtheg mlynedd yn ychwaneg, O Arglwydd," meddai, "yr ydym yn erfyn am bymtheg mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes.-Ac oni roddi di bymtheg mlynedd, O ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos?" Craffodd llawer, ar y pryd, ar eiriau yr hen Gristion. Craffodd Mr. Charles ei hun arnynt, pan mynegwyd hwy iddo. Wrth y gweddiwr ei hun y dywedodd unwaith, "Wel, Richard Owen, nid oes nemawr o'r pymtheng mlynedd eto heb eu treulio." Yr oedd hyn o fewn tua blwyddyn cyn ei farwolaeth. A phrin y daeth y pymtheng mlynedd i ben—yr oedd tuag wythnos yn fyr o'r tymhor—cyn ei alw ef i orphwys. A melys iawn yr oedd raid fod hûn y gweithiwr hwn. Gwasanaethasai ei genedlaeth trwy ewyllys Duw, a hunodd gyda'i dadau.
Wedi dychwelyd adref o Fachynlleth, lle yr aethai er mwyn ei iechyd, a lle y pregethasai ddiweddaf, ac y cynorthwywyd ef i gyrhaedd ei ystafell, dywedai, "Bellach, nid oes genyf ddim i'w wneuthur ond marw." Efe a fu farw