Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/619

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd yn anfoddlawn iddo dreulio rhyw gymaint am gwrw, neu ryw ddiod feddwol arall, gan y tybid yn gyffredin y pryd hwnw fod buddioldeb mawr ynddi. Yr oedd Evan yn arfer myned yn fynych, dros y plwyf, i ryw barth o'r Deheudir, a thelid iddo am ei amser, ynghyd â'r costau. Caniateid iddo ryw gyfran at ddiod, ar hyd y ffordd; ond y gyfran hon a gedwid yn ofalus ganddo, gan yfed dwfr o'r ffynnon, yn lle ei gwario: felly cadwai y wraig yn ddiddig, a darparai gogyfer a rhyw gostau gwir angenrheidiol gydag achos Duw. Heblaw ei garedigrwydd at achos yr efengyl, yr oedd Evan James yn meddu gradd helaethach o wybodaeth a dawn, na llawer o'i gymydogion, yn enwedig y ddawn awenyddol, yr hon a ddefnyddiodd i well dyben, nag a wneid gan y beirdd y pryd hwnw, nac, yn wir, a wneir gan lawer o feirdd yr oes hon.

Ar ol Evan James, John Pugh y clochydd, tad-yn-nghyfraith i Edward Ffoulk, Dolgellau, oedd y gŵr a roes ei dŷ i dderbyn pregethu ynddo. Ni ddywedir am ba hyd y bu yn pregethu dan y gronglwyd hon; ond ar ol rhyw gyfarfod misol a gynaliwyd ynddo, cyrhaeddodd y chwedl i glustiau yr offeiriad, fod ei glochydd yn llochi yr ymneillduwyr yn ei dŷ. Hyn ni ellid ei oddef. Nid cymhwys oedd i glochydd y llan fod yn achlesu dyfodiad y Methodistiaid i'r plwyf, a rhaid oedd ymofyn am glochydd yn ei le. Rhoddwyd gair allan, gan hyny, fod yn rhaid cael clochydd newydd. Ar y cyntaf, ymddangosai y gŵr parchedig yn lled ddiofal pwy a ddewisid, ond gadawai y detholiad yn nwylaw y plwyfolion. Eto, fe ddaeth i'r amlwg yn lled fuan fod ei feddwl wedi disgyn ar ŵr penodol. A phan y galwyd vestry, ac y syrthiodd dewisiad y plwyfolion ar ŵr arall, fe ffromodd yn dost, a haerodd mai ganddo ef yn unig yr oedd yr hawl i ddewis a gosod clochydd. Gwadwyd hyn gan ŵr o ddylanwad mawr yn y plwyf, a chynyddodd yr anghydfod fwy-fwy, fel y penderfynodd llawer o'r plwyfolion nad aent mwyach i'r llan i wrando arno, ac y dywedodd y gŵr y soniwyd am dano, y rhoddai yntau dir i'r ymneillduwyr adeiladu capel arno, os ewyllysient. Cymerwyd y cynygiad hwn gan yr Annibynwyr, ac adeiladwyd capel Rhyd-y-main, yr hwn yw y capel cyntaf a adeiladwyd yn y plwyf. Ond er mai efe yw y cyntaf, nid efe ydyw yr olaf: yn bresenol, y mae pumpo gapelau yn y plwyf, a dau eraill ar ei gyffiniau. Fel hyn y dybenodd yr anghydfod yn nghylch y clochydd. Os eisieu llethu ymneillduaeth oedd ar yr offeiriad, gwell fuasai gadael John Pugh yn ei swydd, gan yr esgorodd ei droad ef allan ar ymddyeithriad y plwyfolion oddiwrth weinidog y llan, ac ar eu henciliad at restrau ymneillduaeth.

Ond nid oedd gan y Methodistiaid, yn adeg yr anghydfod uchod, yr un capel yn y plwyf. Yr oedd y tý hefyd y cadwent y moddion ynddo, yn dra anghysurus, bellach, trwy ei fod yn adfeilio yn gyflym. Meddyliodd ei berchen mai gwell fyddai iddo ei werthu. Yr oedd y boneddwr mawr, ag cedd yn byw gerllaw, yn gosod ei fryd ar brynu pob darn o dir a fyddai ar werth yn y gymydogaeth, ac yn enwedig os oedd rhyw berygl i'r Methodistiaid ymsefydlu yn y plwyf. Pan ddeallwyd fod y tŷ hwn ar werth, gosodwyd