Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/620

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr achos o flaen cwrdd misol y sir, a phenderfynwyd ei brynu. Hyny hefyd a wnaed gan aelod o'r cyfundeb, o'r enw Ellis Jones. Gosododd ef yn gyntaf dan ardreth i'r Methodistiaid bregethu ynddo; ac yn mhen rhyw dymhor, gwerthodd ef drachefn i'r cyfundeb yn feddiant llwyr.

Ymddengys amgylchiadau lled hynod yn mhryniad y tŷ bychan hwn, a'r ardd a berthynai iddo,—y fath, fe allai, na ddylid eu gadael allan yn ddisylw. Yr oedd y gŵr a'i prynodd dros y cwrdd misol, ar y pryd y gwnaeth efe hyny, yn aelod yn y cyfundeb, fel y dywedwyd, ac yn perchen meddiannau bydol. Eto, nid hir y bu ar ol hyn heb ddangos mai nid "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll," ydoedd. Yn lle rhoddi y pryniad i fyny i'r cyfarfod misol, yn ol ei addewid, gomeddodd ei ollwng o'i feddiant, ond gosododd ef i'r Methodistiaid dan ardreth o £3 yn y flwyddyn, sef llôg y £60 a gostiodd y tŷ iddo. Wedi i rai blynyddoedd fyned heibio, ac i'r prynwr golli ei broffes, a'i feddiannau bydol, daeth gorfod arno werthu y tŷ hwn hefyd. Pan glywodd y gŵr boneddig fod y lle eto ar werth, penderfynodd ei brynu; a gorchymynodd i ŵr fyned drosto at y gwerthwr ar ddiwrnod penodol, i'r dyben i'w brynu. Ond y diwrnod cyn i hyn gymeryd lle, daeth y gyfrinach i glustiau cyfaill i'r achos crefyddol. Galwodd ato dri o gyfeillion eraill, gan eu hysbysu nad oedd dim amser i'w golli, os mynent gael y tŷ crybwylledig i'w meddiant. Bwriodd hyn y brodyr i drallod a phenbleth blin;—nis gwyddent pa beth a wnaent. Gwyddent yn dda, os collent y lle hwn, nad oedd nemawr obaith y ceid un man arall yn y plwyf, ac y llethid yr achos crefyddol mewn canlyniad.

Wedi gweddio am gyfarwyddyd, ac ymgynghori â'u gilydd, penderfynasant ar fod dau o honynt, sef Mr. Lewis Evan, a Mr. John Dafydd, Dol-y-clochydd, i fyned yn foreu dranoeth at y gwerthwr, a phrynu y lle os gallent. Treuliwyd y noson hòno mewn pryder digwsg, ac yn foreu dranoeth aeth Mr. Lewis Evan at y gŵr (yr hwn a gymerai arno fod yn gryn gyfaill iddo), ac a'i hysbysodd fod ei dyddyn ef wedi ei werthu, ac y byddai raid iddo ymadael â'r gymydogaeth, yr hyn oedd yn beth blin iawn ganddo, am nad oedd un lle arall yn ymgynyg iddo; ac mai da fuasai ganddo gael rhyw le bychan i fyw ynddo yn Llanfachreth, yn hytrach nag ymadael o'r gymydogaeth. " Nid wyf finau yn dewis i chwi ymadael," ebe y gŵr, "acos gwna y tŷ bach a'r ardd sydd genyf yn Llanfachreth, ryw wasanaeth i chwi i aros ei well, mi a'i gwerthaf ef i chwi." "Am ba faint?" ebe Lewis Evan. Enwyd swm go fawr, llawer mwy na'i werth; ond wedi hir siarad, cytunwyd am dano, rhoddwyd ernes arno, a chafodd Lewis Evan y gweithredoedd gydag ef i'w gartref. Bellach, ni chafwyd un rhwystr i drosglwyddo y lle i ymddiriedolwyr at achos y cyfundeb.

Gwnaeth y boneddwr bob ymdrech a allai i gael y tŷ oddiar Lewis Evan, ac nid oes amheuaeth na allasai elwa llawer ar y pryniad a wnaeth; ond hyn ni fynasai ei wneyd ar un cyfrif, gan y golygai hyny yn dwyll o'r fath adgasaf. Y mae y ffaith yn adnabyddus ddigon, pa gyfrif bynag a roddir am dani, fod y gŵr a'i prynodd gyntaf, er elwa ar y lle, wedi myned yn dlawd, a'r gwr