Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/621

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i prynodd ddiweddaf, gan wrthod gwobr anghyfiawnder, wedi aros mewn cyfrif a dylanwad, o ran meddiannau bydol, a phroffes grefyddol, hyd heddyw.

Pan glywodd y gŵr boneddig fod y Methodistiaid wedi sicrhau eu meddiant yn y darn tir, efe a deimlodd i'r byw, ac a ffromodd yn aruthr, gan fygwth, "Os codant gapel yn y lle, mi a fyddaf yn waeth wrthynt na chi cynddeiriog." Yr oedd y boneddwr, tybygid, wedi gosod ei galon ar gael y plwyf yr oedd ef yn byw ynddo yn gwbl rydd oddiwrth ymneillduaeth, ac na fyddai yr un capel, gan blaid yn y byd, o'i fewn. Gofynodd lawer gwaith i Mr. Lewis Williams, pregethwr yn y cyfundeb, yr hwn sydd yn awr yn byw yn yr ardal, ai ni wnai y Methodistiaid ddim gwerthu y darn tir drachefn iddo ef. I hyn yr atebid bob amser, nad oedd obaith am hyny, oddieithr i'r gŵr boneddig roddi darn arall o dir yn ei le, a hyny mewn llanerch gyfleus i drigolion yr ardal.

"Gan bwy," gofynai yntau, "y mae yr hawl i benderfynu yr achos hwn?" "Nid yw yr hawl yn llaw yr un dyn unigol," oedd yr ateb.—Gofynai drachefn,

"Ai nid yw Mr. Charles, neu Mr. Lloyd, o'r Bala, ddim yn ben arnynt ?" "Nac ydynt, ond y maent yn weinidogion o barch a dylanwad mawr yn y cyfundeb."

"Pa fodd," gofynai y boneddwr drachefn, " y gallaf gael cynyg ar brynu y darn tir?"

"Mae gan y Methodistiaid, Syr R——," ebe Lewis Williams, "gyfarfod bob mis, yn rhyw fan neu gilydd yn y sir, yn yr hwn y penderfynir pob achos o'r fath."

"Pa fodd, ynte," ebe y boneddwr eilwaith, " y byddai oreu i mi wneyd cais at brynu y lle?"

"Trwy anfon cenad, Syr R{bar|2}}, ir cyfarfod misol."

Y genad a anfonwyd, sef John Dafydd, Dol-y-clochydd, yr hwn oedd ŵr o denant iddo, ac yn aelod o'r cyfarfod misol. Efe a osododd ei neges yn ffyddlawn o flaen y cwrdd misol; ond y brodyr a gytunasant na werthent y tir, ond y newidient ef am un arall mewn lle a fyddai yn gyfleus i'r bobl, eithr yn mhellach oddiwrth lan y plwyf, os mwy dewisol fyddai hyny gan y gŵr boneddig. I'r cynyg hwn yr oedd y genad wedi ei ddysgu eisoes i ateb, na wnai ei feistr ddim newidiad—mai ei farn sefydlog ydoedd, nad oedd eisieu yr un capel yn y plwyf, ond bod yr eglwys yn ddigon. Rhoddwyd ar Mr. Lloyd, o'r Bala, i ysgrifenu llythyr at y gŵr boneddig, i'w gyfarch yn barchus, ac i hysbysu iddo benderfyniad y cyfarfod misol. Ni wnaeth y boneddwr ar ol hyn un cais ar brynu y lle. Rhoes ryw rai a fynent dduo y Methodistiaid y gair allan ei fod wedi cydsynio, ar ol hyn, i wneuthur cyfnewid am le arall; ond y gwirionedd ydyw, na fu dim o'r fath beth, eithr chwedl ddisail hollol ydoedd, wedi ei dyfeisio er mwyn cyfiawnhau y gwr mawr yn yr erlidigaeth a ddylynodd, a difrio y crefyddwyr.

Aeth yr hen dŷ a brynasid yn fuan yn rhy fychan, ac yn rhy adfeiliedig i ymgynull ynddo: ac yr oedd dirfawr angen am legwell. Ond pa fodd