y dechreuid adeiladu?—gan fod y gŵr boneddig yn penderfynu y câi pob un a wnai ddim tuag ato, neu a âi iddo i addoli ar ol ei godi, deimlo pwys ei ddialedd, os digwyddai ei fod mewn un modd yn dibynu ar y gŵr boneddig;—mawr oedd y benbleth yn y gymydogaeth, ac yn wir yn mhlith y brodyr yn y cyfarfod misol. Ni fynent ar un cyfrif fod yn anffyddlawn i achos crefydd yn yr ardal hòno, ar y naill law, a theimlent yn bryderus, ar y llaw arall, rhag y byddent yn achlysuro colledion, a chyfyngder trwm, ar drueiniaid tyner eu cydwybodau, a fwynhaent eu bywiolaeth dan aden y gŵr boneddig. Bernid, pa fodd bynag, fod yn rhaid ufyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion," ac mai eu dyledswydd oedd ysgogi yn mlaen, gan adael y canlyniadau i ddoeth ragluniaeth Duw.
Ymddangosodd rhwystr arall yn fuan. Pa le y ceid cerig i adeiladu y capel? Yr oedd gan y boneddwr, mae'n wir, gloddfa gyfleus, lle yr oedd digonedd i'w cael, ond ni cheid careg oddiyno, er gofyn yn ostyngedig iddo. Yr oedd gŵr arall yn perchen tir yn y gymydogaeth, a cherig yn y tir, heb fod yn mhell. Gofynwyd caniatâd gan y gŵr hwn i godi cerig, a chydsyniodd yntau, ac mewn canlyniad codwyd llawer o gerig yn barod i'w cludo i'r lle priodol, ond trwy ddylanwad y barwnig gyda'r perchenog, tynodd ei gydsyniad yn ol, ac ni cheid codi ychwaneg o gerig o'r gloddfa, na chludo y rhai a godasid eisoes. Bellach yr oedd yn gyfyng iawn ar y bobl. Yr oedd yr hen dŷ yn ymollwng, a'r gynulleidfa yn galw am le helaethach a gwell, ond nid oedd defnyddiau i'w cael, gan yr arferai y boneddwr ei holl ddylanwad a'i allu i rwystro codi capel yn y plwyf. Yn y benbleth flin hon, aeth rhai o'r brodyr i'r Bala, i adrodd eu helynt wrth Mr. Charles, ac i ofyn ei gyfarwyddyd. Bwriedid, weithiau, adeiladu y capel o goed i gyd; ac yn ystod yr ymddyddan â Mr. Charles, yr oedd y bwriad hwn ymron wedi esgor ar benderfyniad hollol, sef i wneyd yr adeilad o goed. Ond yr oedd Mrs. Charles yn clywed yr ymddyddan, a gofynai, " A oedd gwir eisiau capel yn Llanfachreth?" Atebwyd, "Nad oedd un amheuaeth am yr angen am dano." "Wel," ebe hithau, "Os yw yr Arglwydd yn ewyllysio ei gael yno, y mae yno gerig i'w adeiladu." Ac er nad oedd dim tebygolrwydd eto pa le y ceid hwy, annogai Mrs. Charles iddynt dynu yr hen dŷ i lawr, a dechreu ar yr adeilad gyda'r defnyddiau a fyddent yn y lle.
Dychwelodd y brodyr adref gyda'r penderfyniad o wneyd fel yr annogwyd hwy; a dechreuasant chwalu yr hen adeilad, a chloddio sylfaen i'r adeilad newydd. Ac wrth dori y sylfaen, torodd gwawr gobaith arnynt;—deallasant yn fuan fod yno ddigon, a mwy na digon, o gerig yn y tir, nid yn unig i adeiladu y capel, ond tŷ hefyd i berthyn iddo. Trwy yr amgylchiad hwn, gwaredwyd y trueiniaid o'u penbleth, a siomwyd eu gwrthwynebwyr yn ddirfawr; ac nid hyny yn unig, ond effeithiodd yn rhyfeddol ar yr ardal. Edrychai y trigolion ar yr amgylchiad fel arwydd amlwg o amddiffyniad yr Arglwydd ar ei achos ei hun.
Bellach nid oedd rhwystr i ddygiad yr adeilad yn mlaen, yr hyn a wnaed dan arolygiad y brawd ffyddlawn Mr. Edward Richard o Ddolgellau. Ond