pa beth a wna y barwnig? oedd bellach yr ymofyniad pryderus;—a ddyry efe ei fygythion mewn grym? Os gwna, pa brofiad tanllyd fydd hyny i'r tyddynwyr a'r gweithwyr ag oeddynt dan ei awdurdod? Ond nid hir y cadwyd hwy mewn petrusder ac amheuaeth. Oblegid nid oedodd y boneddwr hysbysu, nad oedd neb o'i denantiaid ef, na'u gwragedd, na'u plant, ïe, na'u gweinidogion chwaith, hyd y gallai y meistriaid eu llesteirio, i fyned o fewn y capel newydd, dan berygl golli eu tyddynod. Ac nid bygythiad yn unig a fu hyn, ond fe safodd y gŵr mawr at ei benderfyniad; ac mor fuan ag y goddefai cyfraith iddo, bwriodd allan yr anufyddion o'u tai a'u tiroedd. Dangosodd llawer un yn yr amgylchiad chwerw hwn, pa mor dyner oedd eu cydwybodau i Dduw, a pha mor gryf oedd eu cariad at yr efengyl a'i hordinhadau. Cymerasant eu hysbeilio a'u colledu o'r pethau oedd ganddynt, yn hytrach na llychwino eu cydwybodau, trwy werthu eu rhyddid a'u breintiau, i ryngu bodd dynion.
Yr oedd rhai, mae'n wir, dan ruthr y brofedigaeth, yn ymgadw dros dymhor o'r capel, rhag tynu arnynt ddialedd y boneddwr, gan ddysgwyl y lliniarai ei ddigofaint ef yn raddol, ac y caent eu rhyddid i fyned neu beidio, fel y dewisent. Teimlent, ar yr un pryd, mai gorthrymder annheg a chreulawn a osodid arnynt, ac ocheneidient am eu rhyddid. Cyn hir o amser ar ol agoriad y capel, torodd diwygiad neu adfywiad grymus yn Llanfachreth. Parodd hyn at-dyniad cryf i sugno y bobl yno, a methodd llawer ymattal; ac i'r capel yr aethant. Llithrai plant rhai eraill yno, ac ymddangosai fod yr anhawsder i lethu yr achos bychan yn Llanfachreth yn myned fwy-fwy, a gobaith y boneddwr i gael yr oruchafiaeth arno yn myned lai-lai. Yn y cyfamser, bu gorfod ar rai plant ymadael â'u rhieni, am na fynent werthu eu breintiau; rhybuddid a bygythid rhai eraill; ond nid oedd waeth beth a wneid, cynyddu ac ymwreiddio yn ddyfnach yr oedd yr achos dan bob ymosodiad.
Yr oedd gŵr a gwraig wedi myned mewn gwth o oedran, yn byw mewn tŷ bychan, nid nepell o Lanfachreth, ac yn derbyn elusen y plwyf. Edrychid ar yr hen wraig yn neillduol o grefyddol, a chedwid cyfarfodydd gweddio yn achlysurol yn ei bwthyn. Clybu y gŵr mawr fod cyfarfodydd crefyddol yn cael eu cynal yn y tŷ, ac anfonodd yn y fan at y warden, gan orchymyn iddo symud yr hen bobl o'r tŷ lle yr oeddynt, a'u gosod gyda theulu mewn rhyw dŷ arall, gan ddweyd, "Ni allaf oddef pregethu mewn un tŷ y mae genyf fi un awdurdod arno." Y canlyniad a fu eu troi o'u bwthyn; eto gofalodd rhagluniaeth am danynt, trwy drefnu iddynt eu trigfa yn ymyl moddion gras. Nid oes amheuaeth na fu yn edifar gan y gŵr boneddig lawer gwaith gymeryd y gorchwyl peryglus o ymyraeth â rhyddid crefyddol ei ddeiliaid, a chaethiwo eu cydwybodau. Un tro pan oedd rhyw gyfyngder yn ei deulu, dywedai gŵr wrtho,—ïe, gŵr nad oedd ganddo fwy o serch at y crefyddwyr nag oedd ganddo yntau, "Oni adewch lonydd i Israel Duw yn Llanfachreth, gellwch ddysgwyl i holl bläau yr Aifft ddisgyn arnoch." Deallodd yntau ei hun mai gwaith caled oedd darostwng cydwybod un dyn i fympwy dyn arall,