Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/625

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr ystafell " y mae yr annuwiolion yn peidio a'u cyffro, ac y gorphwys y rhai lluddedig: lle y mae bychan a mawr, a'r gwas wedi ei ryddhau oddiwrth ei feistr." Yr oedd Syr R—— yn wr boneddig a llawer o rinweddau canmoladwy yn perthyn iddo, ac oni bai yr un peth hwn, disgynasai ei goffadwriaeth gyda mwy o berarogledd i genedlaethau dyfodol. Nid oes amheuaeth, chwaith, nad oedd rhai eraill yn fwy eu bai nag ef. Yr oedd dynion athrodgar ac enllibus yn ei syfrdanu â chwedlau ffol a chelwyddog. Nid oedd ef ei hun yn gwybod cymaint am Fethodistiaeth, ond trwy glywed son; ac yr oedd o'i amgylch ddynion a gymerent ofal na ddeuai dim i'w glyw am y crefyddwyr, ond a fyddai yn cyffroi ei anwydau, ac yn cryfhau ei ragfarn. Diamheu hefyd, fod ganddo sel fawr dros yr eglwys sefydledig, a'i fod yn edrych ar bawb eraill naill ai yn hereticiaid câs, neu yn ymyrwyr penchwiban.

Teg yw dweyd nad oedd y boneddwr yn dangos cymaint o anfoddlonrwydd am fod deiliaid ei dŷ, neu ei dyddynwyr, yn myned i gapelau y Methodistiaid mewn cymydogaethau eraill; ond ymddengys iddo osod ei fryd ar gadw ei blwyf ei hun yn rhydd oddiwrth ymneillduaeth. Eto, bu fyw i gredu, nad oedd y crefyddwyr hyn yn haeddu eu gorthrymu; cyn diwedd ei oes yr oedd wedi lliniaru llawer ar ei wrthwynebiad, er na chymodwyd ef byth â chapel Llanfachreth. Cawn rhai esamplau yn profi iddo, cyn diwedd ei dymhor, gwbl gredu mai cyfiawnach oedd y crefyddwyr, na'r rhai a achwynai arnynt wrtho, a chaent lai o groesaw ganddo nag a ddysgwylient, pan y dygent eu chwedlau i'w glyw. Un tro, fe ddychwelodd adref yn annysgwyliadwy;—pryd nad oedd neb yn y teulu yn dysgwyl am dano. Y noson hòno hefyd, yr oedd pregeth yn y capel. Yr oedd y brif forwyn yn yr oedfa, ac eraill o'r is-wasanaethyddion hefyd, fel nad oedd wrth y tŷ ar y pryd weinidogion i'w dderbyn, fel y byddid arferol. Ond yr oedd yno ryw un yn barod i'w cyhuddo, yr hwn a aeth at y boneddwr, a chyda thafod athrodgar a ddywedodd, "Maent hwy, Syr R——, wedi myned i'r bregeth:"—gan ddysgwyl yn ddiamheu, yr edrychid yn uchel arno ef ei hun am ei ragoriaeth;—ond yr ateb a gafodd oedd yn ddiflas iawn:

"Oh! nid oes ynot ti gymaint o ddaioni a hyny!"

PENNOD VIII.
PARHAD Y TRYDYDD CYFNOD HYD YN AWR.

CYNWYSIAD:
HEN GYNGHORWYR SIR FEIRIONYDD—METHODISTIAETH YN LLANUWCHLLYN DANIEL ROWLANDS YNO YN PREGETHU—CHARLES Y TELYNWR—Y GYMDEITHAS EGLWYSIG GYNTAF YNO—EVAN FOULK—YR HEN FLAENORIAID, ADEILADU Y CAPEL, A SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL—ENWOGRWYDD Y BALA YN ΕΙ CHYSYLLTIAD A METHODISTIAETH—JOHN PETERS A RICHARD JONES—DEFNYDDIOLDEB YR HENURIAID, A GWASANAETH Y GWRAGEDD I'R EFENGYL—CYDMHARIAETH RHWNG Y SIR YN AWR AG OEDD GAN' MLYNEDD YN OL.

HEBLAW y gwŷr a grybwyllwyd eisoes yn hanes y sir hon, y mae llawer o enwau ereill, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn barchus, ac am y rhaini ellir traethu bob yn un ac un. Yn y sir hon y bu y Peirch. John Roberts,