Llangwm, a Richard Jones o'r Wern, yn llafurio dros flynyddoedd diweddaf eu hoes, eto yr oedd y ddau yn anedig yn sir Gaernarfon, yn yr hon y treuliasant y rhan fwyaf o'u hoes. Cyfiawnach, gan hyny, a fydd cyfeirio y darllenydd i'r sir hòno, am yr ychydig hanes a ellir roddi am danynt. Ond nid ydym eto wedi crybwyll nemawr am rai gwŷr hen a lafuriasant dros eu hoes mewn undeb â chyfarfod misol y sir hon, megys Hugh Evan o'r Sarnau, a Siôn Dafydd, Trerhiwaedog; Dafydd Edward o'r Bala, ac Evan Foulk, Llanuwchllyn. Ni soniasom eto am y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a'r Parch. Richard Jones, Bala. Nid ydym chwaith eto wedi coffa am Griffith Siôn y Sarnau, ac Enoch Evans; ond am y rhai hyn ni fydd genym gan ddiffyg lle, neu ynte gan ddiffyg defnyddiau, nemawr fwy na chrybwylliad i'w wneyd, er iddynt oll wasanaethu Methodistiaeth i fesur mwy neu lai, gyda ffyddlondeb mawr, a gwneyd pob un ei ran tuag at ddwyn y wedd a welir yn bresenol ar Wynedd yn gyffredinol, neu ar sir Feirionydd yn neillduol. Yr oedd y rhai cyntaf a enwyd, sef Hugh Evan, Siôn Dafydd, Griffith Siôn, ac Evan Foulk, yn cael eu gosod yn mysg yr hen bobl, ac oll o bosibl wedi dechreu pregethu cyn diwedd y deunawfed canrif. Yr oedd John Peters ac Enoch Evans raddau yn ddiweddarach, a Richard Jones yn ddiweddarach fyth.
Am Evan Foulk, fe grybwyllir gair yn mlaen yn hanes Llanuwchllyn: am Hugh Evan a Siôn Dafydd, nid oes genym fwy na chrybwyll eu henwau, fel gwŷr da eu gair, diargyhoedd eu rhodiad, a diddadl eu duwioldeb; y rhai, yn ol eu dawn, a wasanaethasant eu cenedlaeth trwy ewyllys Duw, ac a hunasant gyda'u tadau. Nid oeddynt, mae'n wir, yn peri llawer o sylw yn mysg y cyffredin, ond fe'u perchid er hyny gan y sawl a'u hadwaenent, o herwydd eu cywirdeb a'u symledd. Nid oedd eu doniau yn peri cyffro mawr, ond yr oedd i'w nodweddiad ddylanwad helaeth. Yr oeddynt mor angenrheidiol, er adeiladaeth corff Crist, a neb o'u brodyr; er na wnaent hyny yn gwbl yn yr un dull, nac ychwaith yn hollol i'r un graddau, ag eraill, y rhai yr oedd eu gwybodaeth a'u talentau yn rhoddi iddynt ddylanwad helaethach.
LLANUWCHLLYN.
Er mai yn yr ardal hon y pregethwyd y bregeth gyntaf gan Fethodist yn sir Feirionydd, a hyny gan Howell Harris ei hunan, yn y flwyddyn 1739; eto, er hyn, nid yw yn ymddangos fod achos sefydlog wedi ei ffurfio gan y Methodistiaid yma hyd y flwyddyn 1791. Yr oedd hanner can' mlynedd, a mwy, gan hyny, wedi myned heibio, o'r amser cyntaf y bu Harris yma, hyd yr amser y ffurfiwyd cymdeithas eglwysig gan y cyfundeb yn y lle hwn.
Yr oedd agwedd y wlad hon yn gyffelyb i bob parth arall o Wynedd, o ran anwybodaeth am air Duw, ac o ran hen arferion llygredig. Mae dau hen wr yn byw yn y plwyf yn awr, sef dechreu y flwyddyn 1851, ag sydd yn cofio y byddai y clochydd ar ol gwasanaeth y Llan ar y Sabboth yn myned i ben clawdd y fynwent i gyhoeddi cocin chwareu yn Mhant-y-ceubren ddydd Llun. Ychydig cyn hyny fe fyddai yr offeiriad ei hun, ar ol y gwasanaeth, yn