Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/627

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwareu tenis ar dô yr eglwys, ac ar ol chwareu yn myned gyda'i gyd-chwareuwyr i ddiota i'r dafarn. Ac ni pharai y fath ymddygiad un ochenaid iddo, na gwrîd ar ei wyneb, gan mai felly hefyd y gwnai ei frodyr urddedig yn gyffredinol.

Ni a adroddasom eisoes[1] pa fodd y dechreuodd pregethu gan yr ymneillduwyr yn y fro hon, a pha fodd y dygwyd Mr. Howel Harris i ymweled â hi: y mae yn ymddangos hefyd na fu ei weinidogaeth y tro hwn ddim yn hollol ddieffaith. Yr oedd yma ddau ŵr, sef Morgan Dafydd, Cefn-prys, a Thomas Moses, ag oeddynt yn mhlith y rhai a geisient achub Mr. Harris rhag creulondeb ei erlidwyr, pan y bu yn agos a chael ei ladd ganddynt yn y fl. 1741, yn byw yn yr ardal hon: yr oedd creithiau ar benau y ddau hyn yn myned i'w beddau, y rhai a achlysurwyd gan yr ergydion a gawsant wrth geisio achub Howel Harris y pryd hwnw.

Cof gan y darllenydd i mi grybwyll am un Meiric Dafydd o'r Weirgloddgilfach, lle y bu Lewis Rees yn pregethu gyntaf yn y fro hon. Mae wyr i'r gŵr hwnw yn yr un tyddyn yn awr yn preswylio, a'i wraig yn ŵyres i offeiriad Llangower, sef y plwyf nesaf i Llanuwchllyn. Tua diwedd y fl. 1740, medd ysgrif John Evans o'r Bala, daeth Daniel Rowlands, Llangeitho, i Lanuwchllyn, a gofynodd ganiatâd yr offeiriad a'r wardeniaid, i bregethu yn y llan, a chafodd hyny. Ymddengys nad oedd yr hen offeiriad yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo fe, tybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddyddan rhyngddo â Mr. Rowlands yn nghylch ail-enedigaeth; ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim oll am y pwnc hwn. "Beth," ebe Rowlands, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Dygwyddodd fod Mr. Lloyd, offeiriad Llangower, yn Llanuwchllyn ar y pryd y daethai Rowlands yno, a phan ddeallai ddarfod rhoddi caniatâd iddo bregethu yn eglwys y plwyf, aeth yn chwerw iawn wrth yr hen offeiriad diofal, ac yn mlaen yr aeth tua'r eglwys, a'r hen offeiriad yn gorfod myned gydag ef. Erbyn cyrhaedd y llan yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu. Dywedir fod Rowlands, ar y pryd, yn darllen pennod y melldithon yn Deuteronomium, sef yr xxviii, ac i Lloyd, Llangower, ddechreu terfysgu yn aruthrol, ac yn mysg pethau eraill gofynai, "A ydyw Stephen, Glanllyn (gŵr boneddig yn byw gerllaw, tybygid), yn felldigedig? "Ydyw," ebe Rowlands, "os yw y gŵr yn annuwiol." Tybygid fod hyn yn ddigon o achles i derfysgu mwy fyth; a rhwng offeiriad Llangower, a hen wraig yn tincian y gloch mor drystfawr ag a allai, rhwystrwyd yr oedfa, a gorfu i Rowlands, er mawr ofid i lawer a ddaethai yn nghyd i'w wrando, fyned ymaith y tro hwn heb gael pregethu.

Yr ail dro y bu Rowlands yma yn pregethu, safai ar gareg farch y Felin-dre', ffermdy ar derfyn plwyfydd Llanuwchllyn a Llangower. Ei destyn, y pryd hwn oedd, "Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau." Can. ii. 8. Nid oes hanes am effeithiau yr oedfa hon, ond fod

  1. Gwel tu dalenau 91-97.