Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/629

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau i'r tân. Yn raddol, pa fodd bynag, llaesodd y brofedigaeth hon, a daeth ei wraig yn fwy llariaidd. A'r moddion penodol i'w hargyhoeddi a fu cymhwysiad o'r geiriau, "Y mae genyf beth yn dy erbyn," wrth i bregethwr eu darllen yn destyn, ar foreu rhyw gymdeithasfa yn y Bala.

Ar y cychwyniad, deuai amryw o grefyddwyr y Bala i Lanuwchllyn yn fynych i gadw cyfarfodydd gweddio; a dywedir mai cyfarfodydd rhyfeddol fyddent: rhyfeddol o ran ysbryd y gweddiwyr, ac o ran yr effeithiau a'u dylynent, ar y rhai a fyddent bresenol; a rhyfeddol oedd rhai o honynt hefyd, am ryw ymadroddion plentynaidd a digrifol; o leiaf ymadroddion a ymddengys felly i ni yn awr. Engraifft o hyn a ganlyn:—Yn mysg y rhai a ddeuent yma o'r Bala, yr oedd hen wr o'r enw Robert Siôn (yr hen ddillad) y galwent ef; ac un rhyfedd (meddir) ar ei liniau, oedd Robert Siôn. Yr oedd y tŷ, ar y pryd, yn bur llawn o bobl, cymaint felly nes oedd un fenyw, o'r enw Siani Owen, wedi dringo i ben hen gwpan-gell (cupboard) yn y tŷ. Yn ei weddi defnyddiai Robert Siôn ymadroddion fel hyn, "Dos, Arglwydd mawr, dos dros y mynyddoedd i Drawsfynydd; a thros y Garneddwen at Ddolgellau, a thros Fwlch-y-groes, i Fowddu;—'ac at fy ngeneth inau,' ebe Siani Owen o ben y cwp-bwrdd, sydd yno yn gweini; '—Ië, ïe," chwanegai Robert Siôn, "a thros yr holl fyd, o ben Caergybi i Gaerdydd!" Ni wyddai yr hen ŵr, tybygid, nad hyny oedd y byd i gyd! Y mae gweddiau dysyml o'r fath hyn yn llawer mwy cymeradwy gyda Duw na'r rhai hyny, er gwyched eu cyfansoddiad, sydd heb enaid gweddi ynddynt.

Fe fu Thomas Foulk, Ddol-bach; Edward Rowland, Madog; ac Owen Edward, Pen-y-geulan, yn ffyddlawn iawn yn eu tymhor, fel diaconiaid yn y lle hwn. Dywedir fod Edward Rowland am ryw ysbaid o amser, pan oedd yn llencyn ieuanc, ac yn byw gyda'i ewythr, yn cynal yr achos ar ei draul ei hun.

Adeiladwyd y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn y fl. 1804. Dysgwylid y cawsid tir i'w adeiladu yn y llan, lle y byddid yn arferol o gynal moddion, ond eu siomi a gafodd y brodyr yn hyn, a thrwy hynawsedd Mr. John Jones, henaf, Plas—deon, cafwyd lle cyfleus mewn ysgrif-rwymiad. Yn fuan ar ol ei gael, dechreuwyd ysgol Sabbothol ynddo, sef yn y fl. 1807. Yr oedd cryn ymosodiad yn erbyn yr ysgol Sabbothol ar y dechreu; ïe, nid gan y byd, ond gan y crefyddwyr eu hunain. Yr oedd hen grefyddwyr Llanuwchllyn, hwythau, yn teimlo yn gryf yn erbyn y sefydliad hwn. Dywedent mai yr un yr edrychent hwy ar gadw ysgol ar y Sabboth, ag yr edrychent ar aredig y tir, neu ar ladd gwair, ar y Sabboth. Ac nid yn unig fod y gwaith ynddo ei hunan yn anghyfreithlawn, ond ei fod, hefyd, yn atalfa ar ddynion fyned i wrando pregethau allan o'u hardal eu hunain; yr hyn oedd, y pryd hwnw, yn arferiad tra chyffredin. Cymaint oedd y gwrthwynebiad iddi, ag yr oedd yn rhaid cael cynorthwy i'w chadw o'r Bala, bum' milldir o ffordd oddiwrth y lle. A ffyddlawn iawn â fu brodyr y Bala, yn neillduol Gabriel Davies, Robert Griffith, a Richard Edwards, i ddyfod yma dros hir amser i'w chadw. Yr oedd, hefyd, ambell un, yn mysg y brodyr cartrefol, yn llai eu rhagfarn na'u gilydd, a daethant yn gynt nag eraill roddi eu hysgwydd dani; megys