Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/632

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghyffredin ydoedd y ffaith. Nid llawer mewn oed y pryd hwnw, a fedrai ddarllen yn dda, ond fod plentyn heb orphen ei chweched flwydd yn gyflawn, yn alluog i ddarllen yn dda, oedd yn peri syndod cyffredinol, ac yn peri fod canmoliaeth dibrin yn ymdywallt ar ben y bachgen. Yr ysgolfeistr hwn ydoedd y pregethwr y crybwyllasom ei enw eisoes, sef Hugh Evan o'r Sarnau. Dysgodd Richard Jones ychydig o Saesoneg, a chyrhaeddodd raddau bychain o wybodaeth mewn cangenau cyffredin dysgeidiaeth, mewn ysgol arall, a gynelid yn eglwys plwyf Maentwrog.

Yn y fl. 1800 y daeth i'r Bala i weithio ei grefft o wniedydd, neu ddilledydd. Yr oedd yr adeg yn hynod, oblegid yr oedd ofnau mawr am estyniad oes Mr. Charles ar y pryd; yr adeg ydoedd y bu gorfod tori bawd y gŵr hwnw er mwyn achub ei fywyd, ac y gweddiai Richard Owen dduwiol mor nodedig, am estyniad pymtheng mlynedd at ei oes.

Nid oedd Richard Jones hyd yn hyn, tybygid, wedi profi dim yn neillduol o oruchwyliaeth gras ar ei enaid, er ei fod yn hoff o wrando; ond yn raddol, wrth ymarfer â moddion gras, a mynychu yr ysgol Sabbothol, fe weithiwyd ei feddwl ef i ddifrifwch, yn nghylch ei sefyllfa golledig, ac i hyderu am ei fywyd ar drefn yr efengyl. Ond er profi o hono yr argraffiadau hyn, i raddau mwy neu lai, fe fu dros rai blynyddoedd heb ymuno â'r eglwys yn y Bala; nid o herwydd anewyllysgarwch, ond o herwydd petrusder am ei gymhwysder, ac ofn cymeryd y cam. Yr oedd, gan hyny, wedi cyrhaedd 21 neu 22 oed, cyn iddo lwyr ymroddi dan iau Crist. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyn, nodwyd ef allan gan Mr. Charles, yn nghyd ag un arall o eglwys y Bala, i'w danfon dros dymhor i ysgol, i ddysgu yn helaethach, er mwyn eu cymhwyso yn well i gadw ysgol ar hyd y wlad. Anfonwyd y ddau i Gaergybi i'r dyben hwnw; arosodd Richard Jones yno am dymhor, a dysgodd ychydig ychwaneg o'r iaith Saesonaeg, gan berffeithio ei hun yn fwy mewn ysgrifenu a rhifo, i'w gymhwyso i fod yn well ysgolfeistr mewn gwlad. Mewn canlyniad, fe fu dros rai blynyddoedd yn cadw ysgol, yn y Bala yn gyntaf, yna yn Nhrerhiwaedog, a'r Parc, gerllaw y Bala; ac yn y fl. 1814, symudodd i Drawsfynydd, lle y llochesodd y bwriad gyntaf, mewn modd penderfynol, i wynebu ar y weinidogaeth; y bwriad hwn a roes mwen gweithrediad yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, pan oedd yn 31 ml. oed.

Yn y fl. 1825, pan yr oedd wedi bod yn pregethu am ysbaid deng mlynedd, y neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth, ac yr oedd yn amlwg trwy yr holl amser, cyn ac ar ol y neillduad hwn, fod Richard Jones yn dwysâu mewn profiad fel Cristion, ac yn cynyddu mewn defnyddioldeb fel gweinidog. Yn y fl. 1829, ar gais taer y brodyr yn y Bala, fe symudodd o Drawsfynydd i'r Bala i fyw, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Bu farw y brawd tirion a ffyddlawn hwn yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn y fl. 1840, pryd nad oedd eto yn gyflawn 56 ml. oed.

Nid oes nemawr o amgylchiadau hynod i'w coffâu yn oes Richard Jones, mwy na llawer un arall ag sydd wedi dechreu pregethu ar ol cychwyniad yr ysgol Sabbothol. Ni chyfarfu ag erlidiau trymion fel llawer o'r hen dadau,