Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iau Dyrchafael, Gwener y Croglith, a Llun y Pasg. I droedio y bêl, y diwrnod mwyaf nodedig oedd y Nadolig. Fel hyn y cedwid gŵyliau yr eglwys er cyn cof; ac ar yr achlysuron hyn, deuai y naill blwyf yn erbyn plwyf arall; a rhaid oedd fod y ddiod feddwol mewn cyson ymarferiad, i roddi grym a rhwyddineb yn y cwbl; a dybenai y difyrwch bob amser mewn meddwdod, ac, ond odid, mewn ymladdau creulawn, a gweliau ac archollion heb achos. "Nid oedd terfyn," medd yr un gŵr, "ar halogi y Sabbath." Campau ffol, difyrwch gwag, meddwi, a chwffio, a lanwai y tir. Gan yr ynfydrwydd hyn y galarai y ddaear. Wedi cael y cynhauaf, yn lle ymgyfarfod â'u gilydd i ddiolch i ragluniaeth dyner am ei gael, cynelid nosweithiau llawen, i chwareu cardiau, dawnsio, meddwi, a chablu Duw, a hyny hyd dranoeth; a cheid eu hathraw crefyddol hefyd yn aml yn benaf gŵr yn eu mysg.

Ymddifyrai lluaws mawr o'r werinos mewn adrodd a gwrando hen chwedlau celwyddog, gan mwyaf o ffurfiad eu dychymygion,—traddodiadau disail am ddrychiolaethau ac ofergoelion. Dyma fyddai yn ffynu yn y ffermydd ar hir-nos gauaf. Arferai rhai penau teuluoedd ofyn i un neu arall, a ddygwyddai ofyn am lety noswaith, a fedrai efe neu hi draethu hen ystorîon. Os ceid ateb cadarnhaol i'r gofyniad pwysig hwn, gwahoddid y dyeithr i mewn, a chroesawid ef yn gyfatebol i amledd a thwyll ei chwedlau. Os, yr ochr arall, y dywedai neb, na allai adrodd chwedlau, yna cauid y drws arno, ac ni dderbynid ef i mewn. "Yr oedd yr ymadroddion drwg hyn yn llygru moesau da." Cynefinai ieuenctyd â chelwydd dan y fath addysg. Edrychid ar gelwydd yn ddiniwed; ie, perchid yr hwn a fedrai ffurfio y celwyddau mwyaf, fel un yn meddu ar fedrusrwydd helaeth, yr hwn y byddai yn dda ei efelychu. Yn y modd yma y gwenwynid chwaeth y genedl: yn y fath ddull a hwn y treulient eu hamser, ac y magent eu plant. Na ddyweder, ynte, byth mwyach, "fod y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn;" oblegid nid o ddoethineb y dywedir hyny.

Yn mysg y cyfryw drigolion, yr oedd yr ychydig broffeswyr a geid yn anaml ar hyd y wlad; yn llewyrchu megys goleuadau yn y byd; a pharent eu harswyd ar y rhai a wnaent ddrygioni. Adroddir gan yr un gŵr am offeiriad yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn dra hoff o ymladd ceiliogod, ac a fagai geiliogod i'r dyben hyny. Gwneid hyn iddo gan amaethwyr ei blwyf. Ar y Sabboth yn fynych, ar ol y gwasanaeth, âi y gŵr duwiol(?) i ymofyn un o'r ceiliogod, gan ei gario adref dan ei fraich, er mwyn bod yn barod fore Llun. Yr oedd hefyd yn yr un gymydogaeth ŵr duwiol nodedig, o'r enw Griffith Ellis, am yr hwn y bydd genym air i'w ddywedyd ar ol hyn. Dygwyddai weithiau i'r gŵr hwn gyfarfod â'r offeiriad ar yr amser ag y byddai y ceiliog ganddo dan ei gesail. Yn y fan y canfyddai y gŵr urddasol y cymydog duwiol yn dynesu tuag ato, troai yn ei ol o wir arswyd cwrdd ag ef. Y cyfryw oedd dylanwad ei gymeriad, cysonedd ei broffes, a chywirdeb ei rodiad, nes yr ennillai gydwybodau pawb, îe, y rhai mwyaf annuwiol, a'i hadwaenai mai gŵr yn ofni Duw ydoedd.