Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganu cyrn, ac i floeddio—i guro y drysau, ac i lusgo y troliau ar hyd yr heolydd, neu unrhyw beth arall a barai aflonyddwch a thwrf. Yn y bore, cyfodai y lluaws penchwiban at eu gorchwyl o stocsio; a phwy bynag o'r preswylwyr a geid heb gyfodi erbyn yr awr benodedig, rhuthrent i'w tai trwy drais. Os methent a chael myned i mewn trwy y drysau, dringent trwy y ffenestri: llusgent allan y gwŷr oddiwrth eu gwragedd, a chipid hwy ymaith yn hanner noethion mewn berfa, neu mewn trol neu gert, â chrythor o'u blaen, tua'r cyffion. Wedi rhoddi traed y truan anffodus yn y cyffion, dywedent rhyw druth rhy frwnt i'w adrodd uwch ei ben; yna, gollyngent ef ymaith. Prysurent drachefn i chwilio am eraill, a pharhaent i gyflawni y gorchwyl tra buddiol hwn hyd wyth o'r gloch, yr awr a benodasid i hyn derfynu. Ond nid oedd gwaith y dydd eto ond dechreu; a gresyn, tebygid, a fuasai i orchwyl mor anrhydeddus ddarfod yn ebrwydd! Wedi hyn, cymerid esgid oddiam droed pob merch ieuanc a welid, a'r esgid a ddygid i'r dafarn, lle y gadewid hi yn wystl am beint neu chwart o gwrw. Dysgwylid i'r ferch ieuanc ymofyn am ei hesgid, a thalu, yn ol y ddefod, yn siriol am y ddiod a gaed arni. Parhâai hyn hyd hanner dydd. Yn y prydnawn, ciliai cannoedd i'r castell, pawb at eu chwareu, neu i edrych ar y chwareuwyr; yna yn olaf oll, rhaid oedd dychwelyd i'r dafarn eilwaith, lle yr arosent hyd lawer o'r nos; ac arswydus ydyw meddwl y modd y dybenai yr holl ddifyrwch mewn meddwdod, ymladdau, archollion, a thywallt gwaed!

Os dygwyddai neb fyned at yr awdurdodau i achwyn am y cam a wnaethpwyd â hwy yn y rhysedd didrefn, neu am yr aflonyddwch a wnaed ar heddwch cyffredinol y dref, ac i erchi arnynt ddefnyddio eu hawdurdod i ddarostwng y fath afreolaeth, yr holl ateb a roddid iddynt fyddai, "Hen ddefod ydyw."

Gan y bydd angenrheidrwydd, wrth fyned yn mlaen gyda hanes yr adfywiad Methodistaidd, i ddwyn gerbron y darllenydd, yn awr ac eilwaith, agwedd Cymru, afreidiol, tebygid, a fyddai aros yn hwy gyda hyny yn awr. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, gwelwn fod y dywysogaeth mor isel ei gwedd, mewn ystyr grefyddol, ag y gallai gwlad a gyfrifid yn Gristionogol fod. Gwir yw y gallai dynoliaeth fod yn îs; a gwir hefyd fod llawer cangen o deulu Adda, mewn llawer gwlad hyd heddyw, yn dduach eu cymeriad, ac yn druenusach eu cyflwr na'n tadau ni. Nid oedd yn mhlith y Cymry neb yn bwyta dynion, fel y dywedir fod rhai tylwythau yn mhlith paganiaid; nid oeddynt yn addoli duwiau gau, yn offrymu eu plant yn aberthau iddynt, nac yn arteithio eu cnawd eu hunain mewn gwallgofrwydd gau-grefyddol. Gwir nad oedd neb yn byw mewn aml-wreicaeth, fel y gwna y Mahometaniaid; na neb yn cablu yn gyhoeddus enw Iesu o Nazareth, gan ei ystyried yn dwyllwr, fel y gwna Iuddewon anghrediniol; eto, gellir sicrhau mai nid crefyddoldeb y genedl a barai ymattaliad rhag y drygau hyn. Yr oedd y dygiad i fyny, ac arferiad gyffredinol yn peri hyny, yn fwy na chydwybod i Dduw. Yr oedd ffiniau cyfreithiau y wlad yn gwarafun y fath bethau; ac ar y cyfan, nid oedd gan grefydd nemawr o law na llais yn yr achos. Yr oedd y dywysogaeth ar y pryd y torodd y diwygiad allan, wedi ymsuddo