Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eto, er hyn oll, yr oedd rhyw barotoad wedi ei wneuthur gogyfer â phethau mwy. Yr oedd y Beibl wedi ei gyfieithu, a rhai miloedd o gopiau o hono eisoes ar led y wlad. Erbyn hyn hefyd, yr oedd amryw o lyfrau eraill, mwy neu lai eu teilyngdod, wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg. Yr oedd Canwyll y Cymry, gan R. Pritchard, yn goleuo llawer teulu. Daeth allan hefyd Gatecism Eglwys Loegr, Llyfr Ymarfer Duwioldeb, a Holl Ddyledswydd Dyn. Nid oedd hyn, mae'n wir, ond ychydig rhwng cynifer; eto, yr oedd hyn yn rhyw ragbarotoad bychan, ac yn rhyw argoel goleu fod y Duw mawr yn rhagweled rhyw bethau gwell am yr oes a ddylynai.

Ymddengys i mi fod yr afon Fethodistaidd wedi codi o ddwy ffynnon. Rhedai y ddwy ffrwd am enyd wrthynt eu hunain; yna ymunent â'u gilydd yn un ffrwd gref; ac erbyn hyn, trwy dderbyn dyfroedd llawer o gornentydd, y mae yn afon fawr, a'i dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy. Y ddwy ffynnon oeddynt Howel Harris a Daniel Rowlands. Ni ymddengys fod y gwŷr hyn ar y dechre yn gwybod dim am eu gilydd. Disgynodd yr Ysbryd ar y ddau tua'r un amser, a dechreuodd y cyffro yn Mrycheiniog a Cheredigion ar yr un adeg. Nid ffrwyth esiampl nac ymgynghoriad oedd hyn; oblegid yr oeddynt ill dau yn estroniaid i'w gilydd. Yr oedd cryn bellder rhwng Trefeca a Llangeitho; a chan leied oedd y fasnach, a chan mor fynyddig ac anhygyrch oedd y ffordd, nid yw ryfedd genym eu bod wedi llafurio peth amser yn ngwinllan yr un Meistr, heb wybod dim am eu gilydd.

Yr oedd y cyfnod hwn yn un hynod ar gyfrifon eraill. Dyma'r pryd y cychwynodd y diwygiad Methodistaidd yn Lloegr, trwy John Wesley a George Whitfield. Ganwyd Whitfield yn yr un flwyddyn a Howel Harris, sef 1714; a Daniel Rowlands flwyddyn o flaen hyny; a Wesley ddeng mlynedd o flaen Rowlands. Amgylchiad hynod oedd, fod y cyffro diwygiadol wedi cychwyn yn Lloegr a Chymru tua'r un amser; a hyny heb un ymgynghoriad nac ymgynghreiriad o eiddo'r diwygwyr â'u gilydd. Daeth H. Harris dan argyhoeddiad am ei gyflwr yn y fl. 1735; dechreuodd bregethu yn deithiol yn 1737. Yr oedd hyn ychydig o flaen Whitfield a Wesley. Am Rowlands, y mae sicrwydd ei fod ef yn pregethu yn llwyddiannus yn 1738, gan y gwneir crybwylliad am dano, fel cydweithiwr grymus, gan Harris ei hun yn ei ddyddlyfr. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1738, yr oedd y diwygiad yn sir Aberteifi wedi ennill cryn lawer o dir, a phrofid gradd o'i effeithiau yn sir Gaerfyrddin. Gwelwn, wrth hyn, fod Harris a Rowlands wedi eu cyffroi tua'r un adeg o amser. Wele gawodydd o wlaw graslawn wedi disgyn ar y llanerchau hyn yn Nghymru ddiffrwyth ar yr un amser; aeth y cwmwl bendithiol rhagddo, ac arllwysodd drachefn o'i gynwysiad gogoneddus ar Loegr gras; a'r anialwch a'r anghyfaneddle a lawenychasant, a'r diffeithwch hefyd a orfoleddodd ac a flodeuodd fel y rhosyn.

Pa gyfrif a ellir ei roddi o'r cyd-amseriad hwn? Pa gyfrif hefyd? ond fod yr amser i drugarhau wrth Seion, ie, yr amser nodedig wedi dyfod. Nid oedd yma neb i beri dylanwad ar arall, ac ni allai y naill ddim cipio y cyffro oddiwrth y llall. Yr oeddynt yn rhy bell oddiwrth eu gilydd. Ni wyddai y