Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy defnyddiol, ac y bu mwy o dristwch a galar oherwydd eu colli.[1]

Y Parch. DANIEL ROWLANDS, yr hwn, yn benaf, a ystyrir yn apostol Methodistiaeth Cymru.

Yr ydym yn dechreu y dosbarth hwn gyda hanes Mr. Rowlands; nid am ein bod yn bwrw mai efe oedd gyntaf yn y maes. Am hyn, y mae gradd o betrusder; a'r tebygolrwydd ydyw, fod Howel Harris, o Drefeca, wedi cael y blaenafiaeth arno o ychydig amser. Ond yr ydym yn cychwyn gyda Rowlands, o herwydd ei fod yn gysylltiedig â gweinidogaeth y Parch. Griffith Jones, ac o herwydd hefyd mai Rowlands a fu y prif offeryn i roddi dylyniad parhaol yn y gadwen Fethodistaidd, wedi i'w gydoeswr a'i gydlafurwr, Howel Harris, adael y maes i fesur, a chilio i fwy o neillduaeth unigol yn ei lafur.

Nid y peth lleiaf a weithredwyd trwy Griffith Jones yn ei oes, oedd, deffroad y Parch. Daniel Rowlands. Trwy yr amgylchiad nodedig yma, y cafodd y gŵr hynod hwnw fodd i lesâu ei genedl a'i wlad, wedi iddo ef ei hun fyned i bydru mewn bedd; wedi i'w fysedd beidio ysgrifenu, a'i dafod beidio llefaru. Cafodd olynwr teilwng yn Daniel Rowlands. "Un sydd yn hau, ac arall sydd yn medi." Ni roddwyd i'r un gŵr gael dechreu, cario yn mlaen, a pherffeithio dim. Gelwir un i ddechreu, ac arall i berffeithio. Fel hyn, y mae y naill oes yn ymblethu mewn oes arall, a'r naill offeryn yn gwasanaethu amcanion offeryn arall. Moses a ddygodd Israel o'r Aifft, ond Josua a'u dygodd i Ganaan. Cafodd Dafydd yr anrhydedd o dderbyn cynllun y deml, a gwneuthur darpariaeth ati; eto Solomon a'i hadeiladodd. Mae llawer darganfyddiad mewn gwyddor a chelfyddyd, wedi ei ganfod gan un, ei osod mewn gweithrediad gan arall, a'i berffeithio gan y trydydd. Gyda ni, y mae pob un yn hau yr hyn a fedir gan arall; a phob un yn medi yr hyn a hauwyd gan arall. Mae dylanwad yr oes a basiodd arnom ni, a bydd ein dylanwad ninau ar yr oes ddylynol. Cafodd Griffith Jones flaenori ar ddiwygwyr Cymru a Lloegr. Safodd ymron yn unig, ac heb ei gyffelyb, am flynyddoedd. Ond tua chanol ei oes weinidogaethol, cafodd yr hyfrydwch annhraethol o ddeall fod iddo rai, o leiaf, o gyffelyb feddwl, y rhai a genedlwyd ganddo drwy yr efengyl.

Ganwyd y Parch. Daniel Rowlands yn y fl. 1713, fel y soniwyd. Gwynebodd ar y swydd bwysig, fel llawer eraill o'i flaen ac ar ei ol, er mwyn "tamaid o fara;" neu ynte, mewn anystyriaeth a rhyfyg. Fe allai nad oedd y llanc ond saeth yn llaw ei rieni, yn cael ei chyfeirio fel y mynent hwy; ac iddo ef blygu i'w penderfyniad hwy, heb un amcan neillduol ganddo ef ei hun. Pa fodd bynag, yr oedd yma anystyriaeth dirfawr o bob ochr, am bwysigrwydd y swydd o "wylio dros eneidiau," ac i fod yn "oruchwyliwr ar

  1. Cyhoeddodd Mr. Jones amrywiol o lyfrau Cymraeg, heblaw rhai yn Saesneg; megys, Esboniad ar Gatecism yr Eglwys; Galwad at Orseddfainc y Gras; Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras; Ffurf o Weddiau; Cynghor Rhad; Llyfr ar y ddyledswydd o egwyddori yr anwybodus; Casgliad o Ganiadau y Parch. Rhys Pritchard.