Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddirgeledigaethau Duw." Ni ymddengys fod yma un gofal am y cymhwysderau angenrheidiol. Deallir, mae'n wir, fod graddau o ddysgeidiaeth yn anhebgorol, ac y bydd raid cydffurfio â rhyw nifer o osodiadau dynol; ond pwy sydd yn meddwl am y peth rheitiaf o'r cwbl, sef gwaith Ysbryd Duw yn "gosod gweinidogaeth y cymod" o fewn, a "chariad Crist yn cymhell," a gair Duw yn llosgi fel tân yn y galon, wedi ei gau o fewn yr esgyrn?" Mae mwy o ofal am gymhwysder mewn crefft neu gelfyddyd, nag a ddangosir gan filoedd am gymhwysder i weinidogaeth yr efengyl. Ni ymddiriedir y llong i'w hwylio, na'r tŷ i'w adeiladu, ond i grefftwr hyddysg; ond ymddiriedir eneidiau dynion i ofal rhai na feddyliodd neb erioed a'u hadnabu, na hwy eu hunain chwaith, fod ynddynt un math o gymhwysder;— gwyliedyddion deillion, a chŵn mudion, y rhai ni roddant arwydd o berygl; a'r rhai y gofynir gwaed yr eneidiau y cymerasant arnynt eu bugeilio, oddiar eu dwylaw.

Un o'r fath yma oedd Daniel Rowlands ar y cyntaf. Nid oedd ganddo syniadau cywir ar athrawiaeth yr efengyl, ac ni ymofynai am eu cyrhaedd. Cymerasai arno ddysgu dynion mewn pethau yr oedd ef ei hun heb eu deall na'u profi;—i arwain dynion mewn ffordd na cherddai ef ei hunan. Nid oedd ar ddechreuad ei weinidogaeth yn gweled un angen am Grist; diofal ydoedd, fel y lluaws o'i amgylch, yn nghylch pethau pwysig tragwyddoldeb. Tybiai fod ganddo grefydd cystal a neb arall; ac mai mympwy ffol a fuasai ymgyrhaedd at ddim mwy. Arferai y Parch. Griffith Jones ddyfod i bregethu, yn awr ac eilwaith, i rai eglwysi yn yr ardaloedd hyny. Yr oedd son mawr am G. Jones eisoes yn y wlad, fel dyn hynod, ac fel pregethwr grymus; a pharai hyn i luaws mawr ymgasglu i wrando arno, pan y deallid ei fod i bregethu o fewn terfynau cyfleus. Arferai ddyfod yn achlysurol, yn mysg manau eraill, i Landdewi-brefi, pedair neu bum milldir o Langeitho. Ar un o'r achlysuron hyn, aeth Daniel Rowlands i wrando arno. Anhawdd ydyw gwybod pa beth a'i tueddodd. Nid oes lle i gasglu ei fod mewn un modd yn ymofyn am les ysbrydol iddo ei hun; na bod ganddo wir barch i Mr. G. Jones ar gyfrif efengylaidd-der ei syniadau a'i bregethau. Fe ddichon fod rhyw awydd ynddo i fod yn boblogaidd yn mysg ei blwyfolion, ac y gallai ennill rhywbeth a wasanaethai i'r amcan hwn, oddiwrth bregethwr ag ocdd a doniau mor boblogaidd ganddo, ag oedd Mr. Jones. Arweinir ni i feddwl hyn, oddiar fod Mr. Rowlands wedi dangos awydd i gael gwybod paham yr oedd gweinidogaeth un Mr. Pugh, gweinidog ymneillduol yn y gymydogaeth, yn tynu cynifer i wrando arno. Wedi deall fod gweinidogaeth y gŵr hwnw yn tueddu i ddeffroi cydwybodau dynion, trwy ddynoethi eu drygau, eu trueni, a'u perygl, yntau a benderfynodd arfer yr un dull, a defnyddio yr un moddion. Dewisai, gan hyny, destynau priodol i'r amcan, megys, "Y drygionus a ymchwelant i uffern,"—"Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol," "Daeth dydd mawr ei ddigter ef." Oddiwrth y testynau hyn, a'u cyffelyb, ymdrechai i greu cyffro yn ei blwyf; nid i'r dyben, yn ol dim sydd yn ymddangos, i ddwyn pechaduriaid colledig i ffoi at Grist; ond yn