Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

benaf, os nad yn unig, i'r dyben i'w wneuthur ei hun yn bregethwr poblogaidd yn eu mysg. Yn hyn, fe lwyddodd hefyd i gryn raddau. Fe dderbyniodd y wobr; sef y poblogrwydd yr oedd yn ei geisio; a mwy na hyny, fe fu yn offeryn, difwriad mae'n wir, i ddeffroi llawer o bechaduriaid am eu cyflwr colledig; a sicrheir fod cant, o leiaf, o'i wrandawyr dan argyhoeddiadau dwysion, cyn iddo ef ei hun brofi awdurdod y ddeddf ar ei gydwybod, na ffoi at obaith yr efengyl am ei fywyd.

"Yr oedd, y pryd hwn," medd y Parch. J. Owen, yr hwn a ysgrifenai hanes ei fywyd, "o olwg ucheldrem falchaidd iawn, ac yn ymddangos yn llawn coegni ac ysgafnder." A phan ddaeth i wrando Mr. G. Jones, ymddangosai yr eofndra balchaidd hwn yn dra amlwg. Yn y cwrdd, fe safai gyferbyn â'r pregethwr (nid oedd lle iddo eistedd gan y dyrfa), a'r cyfrwyodd ei olwg uchel, a'i drem drahaus, ag a dynai sylw y pregethwr arno. Canfyddai ynddo naws chwyddedig, ysgafn, a gwatwarus; a disgynodd arno, tra yr oedd yn pregethu, awydd i dori allan mewn gweddi, ar ran y dyn ieuanc balchaidd oedd ger ei fron, gan erfyn ar Dduw i'w wneuthur yn ddefnyddiol yn ei dymhor, i lesâu pechaduriaid. Ymddengys fod yr Ysbryd a barodd i'r pregethwr weddio yn ddisymwth felly dros y gŵr ieuanc, wedi cyffwrdd, ar yr un pryd, â chalon y llanc y gweddiai drosto. Ymddangosodd y cyfnewidiad arno yn y fan; syrthiodd ei wynebpryd, llesmeiriodd ei galon, gan y saeth a'i trywanai; a darostyngwyd y creadur uchel-olwg, yn bechadur digymhorth, gerbron Duw. Ciliodd ei ysgafnder oddiwrtho, a dychwelodd adref â saeth argyhoeddiad yn ei enaid, gan ocheneidio yn ddwys, a synfyfyrio. Ymddangosodd cyfnewidiad mawr yn ei bregethau ar ol hyn. Er nad oedd ei wybodaeth eto ond cyfyng yn athrawiaeth yr efengyl; er hyny, yr oedd difrifwch a dwysder, na chanfyddid o'r blaen, yn anadlu trwy ei weinidogaeth. Y son am y fath gyfnewidiad yn mryd ac ymddygiad y person ieuanc, a aeth ar led y wlad. Yr oedd mor amlwg a hynod, fel nad ellid ei guddio.

Crybwyllir am amgylchiad, ar ei ddychweliad adref o wrando Mr. G. Jones, yr hwn a ddengys mor "dda ydyw gair yn ei amser." Yr oedd ei feddwl wedi syrthio i'r fath ddigalondid, trwy yr olwg arswydus a gawsai arno ei hun dan y bregeth hòno, ag y penderfynodd na anturiai i bregethu byth mwy. Ar eu ffordd adref, yr oedd y bobl yn son am y bregeth a glywsent, ac yn cyd-dystio na chlywsent erioed o'r blaen bregeth o'i bath. Disgynai eu hymadroddion fel plwm ar galon Rowlands druan, nes ydoedd ymron llewygu. Yr oedd rhyw ŵr yn eu plith, a farchogai wrth ystlys Rowlands; ac wrth eu clywed oll yn mawrygu y bregeth a glywsent, efe a ddywedai, "Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y cyfarfod heddyw, ni chefais i ddim budd ynddo: y mae genyf fi achos i ddiolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho;" gan daro ei law ar ei ysgwydd. Amgylchiad digon dibwys oedd hwn ynddo ei hun; eto, cafodd effaith rymus ar feddwl llwfr y gweinidog ieuanc. Teimlai ei rwymau i raddau yn cael eu tori, a'i ysbryd ymollyngar yn adfywio; a dywedai ynddo ei hun, "Pwy a ŵyr na wna yr