Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i flaen, wedi ei rwymo gan amgylchiadau i fyned rhagddo, bellach, ac ni allai ymattal. Gosodasai ei law ar yr aradr, ac annheilwng a fuasai edrych yn ol. Cysurwyd ef yn fawr, ryw dro, ei fod ar lwybr ei ddyledswydd, pan y gwysiwyd ef i ymddangos o flaen rhyw ŵr mawr, i roddi cyfrif am ei waith yn myned o amgylch y wlad i gynghori, trwy y gair hwn, "Wele, mi a roddais o'th flaen ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau." Clywodd hefyd, yn mhen enyd ar ol iddo ef ddechreu, fod Rowlands yn Llangeitho, yr un wedd â Whitfield yn Lloegr, yn tori allan gyda'r un gwaith ag yntau; a'u bod yn cyfarfod â gwaradwyddiadau cyffelyb iddo ei hun, ac yn cael eu bendithio â chyffelyb lwyddiant.

Cynorthwywyr Harris a Rowlands.

I. Y Parch. WILLIAM WILLIAMS, Pant-y-celyn.—Un o'r gwŷr cyntaf, a mwyaf effeithiol, a ddaeth i'r maes i gynorthwyo Harris a Rowlands, ydoedd y Parch. William Williams, Pant-y-celyn. Deffrowyd y gŵr adnabyddus. hwn trwy weinidogaeth Howel Harris, yr hwn, ar y pryd, a draethai ei genadwri bwysig yn mynwent Talgarth, ar ol y gwasanaeth yn y llan. Yr oedd W. Williams yn dychwelyd adref o'r ysgol yn y Gelli, yn sir Frycheiniog, lle y buasai dan ofal un Mr. Price, o Maes-yr-onen, yr hwn oedd yn weinidog yn mysg yr ymneillduwyr. Yr oedd yr athrofa hon yn dra enwog yn y dyddiau hyny. Bwriad Williams y pryd hyny oedd bod yn feddyg. Astudiodd physygwriaeth yn ddyfal, a bu o les i laweroedd yn y ffordd hon, dros ystod ei oes. Ond er i'r llencyn Williams osod ei fryd ar iachâd y corff, Duw a'i bwriadodd ef yn offeryn i iachâu eneidiau. "Calon dyn a ddychymyg ei ffordd; ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef," Diar. xvi, 9. Cyfarfu Williams ag amgylchiad ar fynwent Talgarth, ag a roes gyfeiriad cwbl wahanol i'w ysgogiadau. Bu y tro a roddwyd ar ei galon y pryd hwnw yn bwysig iawn iddo ei hun, ac yn effeithiol iawn i Gymru. Am y tro hwnw y canodd ef fel hyn:

Dyma fore, byth mi gofia', clywais inau lais y nef,
Daliwyd fi wrth wŷs odd'uchod, gan ei swn dychrynllyd ef;
Ac er crwydro y dyrys anial, ol a gwrthol, dilesad,
Tra f'o anadl yn fy ffroenau, mi a'i galwaf ef yn dad.

Boreu i'w gofio yn wir oedd hwn iddo! Gallwn feddwl mai ar y fynwent, ac nid yn y llan, yr oedd presenoldeb Duw. Yn yr eglwys, mae'n wir, yr oedd gweinidog urddedig a rheolaidd; ond ar y fynwent yr oedd gŵr, gonest a dysyml mae'n wir, ond heb ei urddo gan neb dynion. Eto, yr oedd Harris ddi-urdd yn llawn o'r Ysbryd Glân. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo. Cenad y nef ydoedd. Cawsai gyffyrddiad â'i galon â marworyn oddiar yr allor; enynodd tân, a llefarai yntau â'i dafod. Yr oedd bywyd yn ei weinidogaeth y tro hwn, o leiaf i Williams, yr hwn a ddychwelodd adref, nid yn unig yn fwy cyflawn o ddysg, ond weithian yn llawn profiad o'r gwirionedd. Urddwyd ef yn ddiacon yn yr eglwys sefydledig yn y fl. 1740; a gwasan-