Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fol iddynt. Hyd y mae ynddynt hwy, dylent fod yn barod i bregethu y gair, mewn amser, ac allan o amser, a hyny i bawb, ac yn mhob man. Gwyddom yn dda, na all yr un o weision Crist bregethu yr efengyl i bob creadur, trwy ymdrechiadau personol; eto, ni ddylai yr un gyfundrefn ddynol eu lluddias i wneuthur hyny, hyd y mae ynddynt hwy. Gadawer i ragluniaeth Duw, galluoedd terfynol creadur, ac amgylchiadau anorfod, osod ffiniau iddynt, ac nid gosodiadau dynol. Amlwg ydyw na all un dyn fod ond mewn un man ar unwaith. Rhaid fydd iddo adael un man, os myn fyned i fan arall; ac angenrheidiol a fydd iddo wrth ddoethineb i'w gyfarwyddo yn ngwahanol amgylchiadau ei oes, pa bryd, ac ar ba achlysuron, y byddai yn fuddiol iddo deithio oddicartref. Nid yn erbyn yr ystyriaeth o beth sy'n ddyledswydd ar y pryd, y llefarwn, ond yn erbyn y gyfundrefn gaeth ac anhyblyg ag sydd yn caethiwo cydwybodau tyner a da;—cyfundrefn ag a fydd yn eu rhwymo, naill ai i anufyddhau i Dduw, neu ynte i dynu arnynt wg eu huchafiaid.

Yr oedd y sylwadau hyn, tebygid, yn gymhwys yn y lle hwn, gan mai y Parch. William Williams, o Bant-y-celyn, oedd yr offeiriad cyntaf a droes allan o'r eglwys yn mhlith tadau y Methodistiaid yn Nghymru. Drachefn, y mae yn rhaid addef, mai yn ol y ffordd a alwant hwy yn afreolaeth, y cododd y diwygiad Methodistaidd; oddiyma y cafodd ei ddechread. Yr un modd hefyd y bu yn Lloegr, gyda Whitfield a Wesley. Anhawdd iawn, gan hyny, pe'r ewyllysiem hyny, fyddai i ni amddiffyn y diwygiad hwn, a gosod allan ardderchogrwydd ei darddiad, a llesoldeb ei effeithiau, heb amddiffyn hefyd y rhai a fuant yn brif offerynau i'w gynyrchu. A phwy a fedr eu hamddiffyn hwy, heb ddadlu dros eu gwaith yn tori allan ar y llaw dde, ac ar y llaw aswy, i bregethu'r efengyl? A pha fodd y gellir eu hamddiffyn yn hyn, heb ddadlu dros yr hyn a gyfrifir yn afreolaeth, a beio ar y rhai, pwy bynag oeddynt, a fynent eu lluddias? Y gwir ydyw, yr oedd y peth o Dduw; angenrhaid a osodwyd arnynt, a hyny gan UN anfeidrol ei allu, a goruchel ei awdurdod. "Ei air ef oedd yn eu calonau yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, blinent yn ymattal, ac ni allent beidio," Jer. xx, 9. Hoffem yn fawr weled pethau cyffelyb eto. Nid testyn wylofain a fyddai genym, pe clywem fod esgobion, ac archesgobion, wedi eu llenwi â'r tân hwn, fel na allent omedd llefaru ar fynydd neu ar for, mewn ysguboriau a thai—mewn ffeiriau a gwylmabsantau. Nid anniddig fyddem, pe clywem am ambell ŵr boneddig o Rector, neu weinidog sefydlog, dan ddylanwad yr un fath gynhyrfiad a Whitfield neu Harris, a'u cymdeithion, yn codi eu llef fel udgyrn, trwy barthau tywyll ein gwlad, nes cyffroi pechaduriaid diofal wrth y miloedd. Clywsom am un Ioan Fedyddiwr a wnaeth hyny; a chlywsom hefyd am UN a elwid mab y saer, a wnaeth hyny! Ni fyddai yn ddianrhydedd, tebygem, i neb arall, pa mor urddasol bynag, wneuthur yn gyffelyb. Rhoddwyd urddas a bri tra mawr ar ysgogiadau o'r fath, gan i Fab Duw ei hunan wneuthur felly. Gwedi i Williams ymadael ag eglwys Loegr, y daeth yn gydnabyddus & Daniel Rowlands, yr hwn a fyddai yn dyfod weithiau, yn achlysurol, fel y soniasom eisoes, i gapel