Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy y wlad, a miloedd ar filoedd a ymgasglent i wrando arno, pa bryd bynag y ceid allan ei fod ef i bregethu. Ar hyn, enynodd digofaint yr offeiriaid difraw a didduw yn ei erbyn, gan deimlo fod ei ysbryd a'i ymddygiad yn eu condemnio hwy. Cenfigenasant wrth ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a chauasant ddrysau yr eglwysi, o un i un, yn ei erbyn. Yntau ar hyn a aeth allan fel cenad anfonedig y nefoedd, i'r prif-ffyrdd a'r caeau, i gymhell pechaduriaid i ddyfod i mewn fel y llenwid y tŷ. Pregethai yn fwyaf sefydlog mewn pedwar o leoedd gwahanol, ac ennillodd ato gynulleidfa fawr iawn. Anfynych y byddai nifer y cymunwyr ar y gweinyddiad misol o'r sacrament yn llai na dwy fil o rifedi. Mynych y gwaghawyd yr eglwys i wneyd lle i ail a thrydedd gynulleidfa, i gyfranogi o swper yr Arglwydd.

Ond nid sir Benfro yn unig a brofodd rym ac effeithioldeb ei weinidogaeth. Daeth i gydnabyddiaeth buan â'r dynion hynod y soniasom eisoes am danynt, sef Harris a Rowlands yn Nghymru, ac â Whitfield yn Lloegr. Nid yw yn ymddangos, wrth yr hanes sydd genym, fod H. Davies yn gydnabyddus â gweithrediadau y gwŷr a enwyd, cyn iddo ef ddechreu cyffroi sir Benfro trwy ei weinidogaeth; ac o ran dim gwrthwyneb a fedr yr ysgrifenydd gael allan, yr oedd Mr. Howel Davies mor foreu a hwythau yn y maes, ac mai tua'r un adeg yr oedd y gwŷr hyn yn taro allan, er na wyddent ddim y naill am y llall. Parodd ei gydnabyddiaeth â gwŷr ag oeddynt o'r un ysbryd ag yntau, ac yn cyrchu mor egniol at yr un nôd, gryfhad mawr i'w ddwylaw, ac eangiad mawr ar faes ei lafur. Ffurfiwyd cyfeillgarwch agos rhyngddo â Whitfield, ar gynghor yr hwn yr helaethodd gylch ei ddefnyddioldeb yn fawr. Ar ei gais ef, a Iarlles Huntington, ymwelai â Llundain, a bu ei weinidogaeth yno, yn neillduol yn y Tabernacle, a Tottenham Court, o fendith fawr iawn i breswylwyr y brif-ddinas. Llafuriodd lawer, a thros lawer o flynyddoedd, o bryd i bryd, yn nghapelau Iarlles Huntington, yn Brighton, Bristol, &c., a dyferai ei weinidogaeth fel y gwlaw, er ffrwythloni y diffeithdir cras. Cafodd y Gogledd hefyd fedi o ffrwyth ei lafur. Anhawdd i ni, yn y fl. 1850, ydyw dychymygu pa fath anturiaeth ydoedd i bregethwr yr efengyl ddyfod ar daith weinidogaethol i'r Gogledd. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn fynyddig; y lletyau yn wael ac yn anaml; caredigion yr efengyl gan mwyaf yn dlodion eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif; yr addoldai yn wael ac oerion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; y rhagfarn yn erbyn y pengryniaid yn greulawn fel y bedd; y werin yn derfysglyd a dideimlad; y clerigwyr yn llawn cynddaredd; a'r gwŷr mawr yn llygadu am gyfleusdra i fwrw eu dial ar ddynion a gyfrifid ganddynt fel aflonyddwyr y byd. Pan yr edrychir ar yr amgylchiadau hyn, hawdd ydyw penderfynu mai nid gorchest fechan i ŵr o sefyllfa Mr. Davies, ac o iechyd mor wan, oedd teithio y Gogledd i bregethu yr efengyl. Eto, hyn a wnaeth; a chawn aml grybwylliad am ei enw hyd heddyw, fel un a arddelwyd mewn modd amlwg, ac i raddau helaeth iawn er dychweliad pechaduriaid at Dduw yn Nghrist. Gwneir crybwylliad ei fod ef yn y gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd erioed yn y Bala. Fe allai mai at y daith hon i'r Gogledd y cyfeiria y gŵr duwiol yn ei lythyr