Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlithog. Yr oedd ei dymherau yn hynaws, a'i ysbryd yn iraidd gan fwyneidd-dra yr efengyl. Parai hyn fod ei "ymadrodd yn defnynu fel y gwlaw, ac yn dyferu fel y gwlith." Am dano ef y dywedai John Evans o'r Bala: "Bu y Parchedig Howel Davies yma amryw weithiau. Gŵr tirion mwynaidd oedd Mr. Howel Davies, ac yn bregethwr ennillgar iawn."

Wrth ddarllen dyddlyfr gŵr duwiol iawn, o'r enw Joseph Williams, yr hwn oedd yn byw yn Kidderminster, Worcestershire, ni a gyfarfyddwn ag enwau amryw o'r tadau Methodistaidd, megys Howel Harris, D. Rowlands, H. Davies, a W. Williams. Dywed yr ysgrifenydd yn ei ddyddlyfr, ddarfod iddo gael y fraint yn Mehefin 28, 1746, o gyfarfod y gwŷr uchod, yn nghyd ag ugain o gynghorwyr, mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca. Ar yr achlysur, meddai, "Ciniawais gyda'r gwŷr eglwysig, ac amrai o'r cynghorwyr; ac O! y fath ysbryd o gariad at Grist, a chariad at eu gilydd, oedd yn ganfyddadwy ynddynt. Nis gallaswn amgen na meddwl mai prin y gallesid sylwi gyda mwy o briodoldeb am dduwiolion y prif oesoedd, 'Gwelwch fel y mae y Cristionogion hyn yn caru eu gilydd!' Cefais wybyddiaeth ganddynt fod yr Arglwydd, mewn modd hynodol, wedi cyfodi y Parch Mr. Rowlands yn swydd Ceredigion, a Mr. Howel Harris yn swydd Brecheiniog, ar yr un a'r unrhyw amser a Mr. Whitfield a'r Wesleyaid, ac oll yn annibynol ar eu gilydd; ac wedi arddel eu llafur mewn modd hynod, nes effeithio ar y rhan fwyaf o Gymru a'r cwbl mewn ysbaid un mlynedd ar ddeg o'r dechreu cyntaf; fel y mae o fewn tywysogaeth Cymru, chwech neu saith o wŷr eglwysig, deugain o gynghorwyr, a saith ugain o gymdeithasau crefyddol, yn awr yn pregethu ac yn derbyn pur efengyl Crist. Ymddengys iddynt gyfarfod â gwrthwynebiad mawr, ac â llawer o erlidigaeth; ond ddarfod i'r cwbl wasanaethu er lledaeniad i'r efengyl; ac weithiau ymddengys fel pe byddai pob gwrthwynebiad yn cael ei fwrw i lawr o'u blaen. Yr oedd Mr. Rowlands yn gallu dywedyd wrthyf fod ganddo dair mil o gymuuwyr, a Mr. Davies a ddywedai fod ganddo yntau ddwy fil yn swydd Penfro."

Yn yr un dyddlyfr y cawn enghraifft o effeithiolrwydd a buddioldeb gweinidogaeth Mr. Howel Davies, yn nychweliad un Mr. Bateman, person St. Bartholemew Fwyaf, yn Llundain. Yr oedd gan Mr. Bateman fywioliaeth eglwysig fechan yn Nghymru, yn swydd Penfro. Ymwelai yn achlysurol â'r plwyf hwn yn Nghymru, a phregethai yn un o addoldai Mr. Howel Davies. Yr oedd ar y pryd y cyfeirir ato, yn nghyflwr natur, ac yn anghydnabyddus â'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu; ac yr oedd ei bregeth yn llawn o gyhuddiadau enllibus yn erbyn y Methodistiaid, gan rybuddio ei wrandawyr er mwyn eu heneidiau i'w gochel.

Ar ol y bregeth hon, syrthiodd arno brudd-der ysbryd, a chyfyngder meddwl na allai roddi cyfrif am dano, y fath a'i gwnaethai yn ddiawydd am gyfeillach o'r natur a garasai o'r blaen: a than y prudd-der ysbryd hwn, bu gorfod arno wrando Mr. Howel Davies yn pregethu, a hyny yn yr un addoldy ag y buasai efe yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr; teimlodd y gair fel "picell yn trywanu ei afu;" ei bechodau, bellach, a'i llethent ef; "aethant dros ei