Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol II.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol ei farn ef, llawn mor deilwng o goffâd anrhydeddus a neb arall. Wrth y cyfryw, dywedwyf, na ellir gosod y gwall hwn wrth fy nrws i, gan na ddaeth yr hysbysiad a dybid mor ddyddorol ddim i law; ond gwnaethum fy ngoreu i wneuthur cyfiawnder â'r defnyddiau a dderbyniwyd.

Mae hanes amrywiol siroedd mewn Dê a Gogledd eto ar ol; ynghyda hanes Methodistiaeth yn nhrefydd Lloegr. Mae hanes yr Henaduriaeth Newydd yn siroedd Caer a Lancaster—Hanes y Methodistiaid yn America— Bras hanes y ddwy Genadaeth a'r ddwy Athrofa; hefyd, desgrifiad o gyfansoddiad, dylanwad, cyfrifoldeb, diffygion, a rhagoriaethau Methodistiaeth Cymru, i fod yn gynwysiad y drydedd Gyfrol; yn gysylltiedig â'r hon y bydd Mynegair manwl o'r tair Cyfrol. Gwelir wrth y bras ddarluniad hwn y bydd llawer o amrywiaeth, a hwnw o natur tra dyddorol, yn y Gyfrol ddiweddaf; yr hyn a'i gwna o werth a phwys neillduol, yn llawn cymaint a'r un o'r ddwy a'i blaenorodd, ac yn gyfryw na fydd y gwaith mewn un modd yn gyflawn hebddi.

JOHN HUGHES.
MOUNT-STREET, LIVERPOOL,
Ebrill, 1854.