Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PARHAD Y PEDWERYDD DOSBARTH;

SEF,

HANESIAETH Y SIROEDD.

PRIF LINELLAU YN HANES METHODISTIAETH SIR FORGANWG.

PENNOD I.

AMGYLCHIADAU CYCHWYNOL METHODISTIAETH Y SIR.

CYNWYSIAD:

Y dechreuad, yn 1739—Ymweliadau Harris â'r wlad—Gwedd grefyddol y wlad ar y pryd—Cymdeithasau a Chynghorwyr yn y fl. 1742—Adroddiadau John Richard a Thomas Williams—Watford, ger Caerffili—Capel Groeswen—Y Goppa Fach—H. Harris yn y Waengron a Dantwyn—Hopkin John Hopkin, y Saermaen—Mr. John Walters, Gwynlais—ucha', a Mr. G. Morgan, Glynhir

GAN fod un cŵr o'r wlad hon yn terfynu ar sir Frycheiniog—y sir y cartrefai Howel Harris ac y dechreuai lafurio ynddi, naturiol ydyw i ni gasglu, ddarfod iddi dynu ei sylw, a mwynhau ei weinidogaeth yn foreu. Ac nid casgliad yn unig ydyw hyn ond ffaith;—ffaith a brofir trwy draddodiad sier, a ffaith hefyd a gadarnheir trwy ysgrifion awdurdodedig. Mae "COFNODAU TREFECCA,"—yr ysgrifion y cyfeiriwyd atynt mor fynych yn y gwaith hwn, yn rhoddi hanes am gyfarfodydd a gynhelid yn y Sir, yn y rhai y byddai Mr. Harris yn bresenol,—am eglwysi a blanwyd dan ei arolygiaeth, ac am bersonau a ddygwyd i wybodaeth o'r gwirionedd trwy ei weinidogaeth, a hyny mor foreu, neu foreuach na'r fl. 1742. Nid oes dim hynod yn hyn ychwaith, gan ei fod wedi ymweled â Phenfro, ac â Gwynedd mor gynar a'r fl. 1739. Ië, prin y mae un parth o Gymru, oddigerth Sir Fflint yn unig, na fu Howel Harris ynddi yn gyntaf un, megys yn arloesi y dyrysni, ac yn rhwyddhau y ffordd, i ereill i ddyfod ar ei ol, ac yn enwedig y gwledydd nad oedd yr un Daniel Rowlands neu Howel Davies yn byw ynddynt. Yr oedd siroedd Caerfyrddin, Mynwy, a Morganwg, gan nad oedd ynddynt neb o'r fath eto wedi ymddangos, a chan eu bod oll yn terfynu ar ei wlad ef, yn naturiol yn ymgymhell i'w sylw, ac yn ei wahodd i'w broydd.

Am ei ysgogiadau yn y fl. 1739, yn y wlad hon, y mae ef ei hunan yn ysgrifenu:—" Wedi i mi ymadael â fy holl gyfeillion yn Mristol, mi a ddychwelais i Gymru; erbyn hyn yr oedd y drws yn ymagor fwy fwy, i fyned i