Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryw siroedd, sef, Morganwg, Brycheiniog, Caerfyrddin, a rhan o Faesyfed, Aberteifi, a Phenfro. Cefais achos i gredu na fu fy llafur yn ofer y tro hwn, eithr i'r Arglwydd ei fendithio i laweroedd." Ysgrifena drachefn, "Myfi a aethum drachefn trwy siroedd deheuol Cymru, yr ail waith y flwyddyn hono." Drachefn y dywed:—" Yr haf canlynol, yn y fl. 1740, fel yr oeddwn yn myned trwy sir Forganwg, myfi a gyfarfyddais â Mr. Seward, yn y Bontfaen; oddiyno efe a ddaeth gyda mi i Gaerdydd." Crybwyllasom o'r blaen am ei waith yn cyfarfod â Whitfield yn Nghaerdydd yn y fl. 1739.[1] Yn yr un flwyddyn yr ysgrifena, "Mi a bregethais ddoe yn nhŷ marchnad y Bontfaen (Cowbridge), a chefais ychydig rwystr. Wedi i mi ddarfod pregethu, cefais ddirgel ymddyddan â phump o'r gwŷr blaenaf yn y dref, a chefais le i obeithio y bydd y tro er bendith, ac y denfyn yr Arglwydd fi yno eto. Yr wyf yn awr ar fy ffordd i Sir Benfro; collais fy ffordd ar y mynyddoedd neithiwr, ond yr Arglwydd a gofiodd ei gyfammod.”

Nid oes genym le i gasglu fod yma nemawr un yn y wlad hon yn pregethu'r efengyl yn ei phurdeb a'i blas, yn y tymhor hwn, yn yr eglwys sefyd ledig nac y'mhlith yr ymneillduwyr. Ni a gasglwn hyny yn benaf oddiwrth air a ddywedir gan Harris yn un o'i lythyrau, dyddiedig Ionawr, 1839, tra yr oedd yn Morganwg. Fel hyn y dywed:—" Yn y sir hon, lle yr wyf yn awr, y mae y diwygiad yn cynyddu; mae yma hefyd ŵr ieuanc yn mysg yr ymneillduwyr, yr hwn sydd o ddefnydd mawr, ac yn dra diragfarn; y mae un arall o'i fath yn sir Drefaldwyn,[2] mi a fum yno ddwy waith;[3] ac y mae argoelion fod pelydrau dysglaer efengyl gras yn tywynu ar lawer. Y mae hefyd ddau neu dri o guradiaid ieuainec yn sir Forganwg (lle yr wyf fi yn awr) yn ewyllyswyr da i grefydd."

Nid oedd Harris ni a welwn yn gydnabyddus ond ag un gweinidog ymneillduol y pryd hwnw yn sir Forganwg, yr hwn oedd o ddefnydd mawr; ac ni wyddai ond am ddau neu dri o guradiaid teilwng, i gael eu dynodi, hyd yn nod, yn ewyllyswyr da i grefydd. Yr oedd Harris yn debyg iawn o ymholi yn fanwl am y fath wŷr, ac yn debyg iawn o'u cael, os byddent i'w cael hefyd. Yr oedd y tywyllwch, mor drwch a dudew, nes oedd pob canwyll, er lleied y goleu a roddai, yn hawdd ei gweled. Yr oedd gweinidog efengylaidd y pryd hwnw yn ddyn mor hynod ac unigol ag y byddai y son am dano yn cerdded ymhell, ac yn un na ellid ei guddio. Pa fath ynte a raid fod tywyllwch y wlad! Y pryd hwn, hefyd, nid oedd ond ychydig iawn o ysgolion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror wedi ei sefydlu ; ac ymhen 5 mlynedd wedi hyn nid oedd ond 25 o'r ysgolion hyn yn yr holl sir. Yr oedd Harris, ynte, yn llafurio yn y blynyddoedd hyn dan anfanteision dirfawr. Nid oedd iddo ymron neb i'w gynorthwyo; yr oedd Rowlands yn lled sefydlog yn sir Aberteifi; a Howel Davies eto o fewn eglwysi sir Benfro; a Williams, Pant

  1. Cyf. I. tudal. 392
  2. Nid oes amheuaeth nad Lewis Rees oedd hwn.
  3. Nid oes crybwylliad yn ei ddyddlyfr am y troau hyn.