Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr teithiol y Methodistiaid. Y canlyniad fu i'r rhai olaf adeiladu capel arall, sef yr un sydd ganddynt yn awr yn nhref Caerphili."

Bu palas Mr. Price, a hen gapel y Presbyteriaid, yn dra defnyddiol i'r hen Fethodistiaid, mewn adeg nad oedd ganddynt gymaint ag un capel o'r eiddynt eu hunain wedi ei adeiladu yn Nghymru. Yr oedd y cyfarfodydd misol a chwarterol, y pryd hwnw, yn cael eu cynal mewn tai anedd; a'r pregethu, yn fynych, yn yr awyr agored. Sonir am gyfarfodydd yn cael eu cynal yn Nhrefecca, sir Frycheiniog; yn Tyddyn, sir Drefaldwyn; yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, sir Gaerfyrddin; yn y Longhouse, sir Benfro; ac yn Llandremôr, Dygoedydd, Glan-yr-afon-ddu, Blaen-y-glyn, Bryn-y-bychain; a hefyd yn Dolberthog a Nantmel, sir Faesyfed; oll, tybygid, yn dai anedd, lle y preswyliai rhyw rai gwresoccach eu calon, a helaethach eu moddion, fel ag i allu rhoddi croesawiad i'r dyeithriaid a ddeuent ynghyd, ar y fath achlysuron.

Yr oedd Corseinion neu Croeseinion, fel yr ysgrifenir y gair weithiau, yn agos i'r lle y mae capel y Goppa-fach arno yn awr, ac yn hen orsaf Fethodistaidd; fel y gwelir yn "Nghofnodau Trefecca." Cadarnheir hyn hefyd gan y Parch. Hopkin Bevan, Llangyfelach, yn yr hanes byr a ysgrifenodd am gychwyniad Methodistiaeth yn ei fro ei hun.

Bu Hopkin Bevan, yr hwn a fu farw yn y fl. 1839, yn ymddyddan â rhai o wrandawyr Howel Harris, pa rhai a ddygwyd at grefydd trwy ei weinidogaeth, sylwedd yr hwn ymddyddan a roddir ger bron y darllenydd.

Er ys llawer o flynyddau yn ol, yr oedd hen ŵr, o'r enw John Morgan, yr hwn oedd yn aelod yn y Goppa-fach. Adroddai hwn am rai o ddyfodiadau cyntaf Howel Harris i'r ardaloedd hyn. Yn y dyddiau hyny, yr oedd twmpathau chwareu a champio yn cael eu cynal yn fynych, ac yn enwedig ar Sul y pasg a'r Sulgwyn, a Gŵyl-Ifan yr haf, lle y byddai dawnsio, ymladd ceiliogod, troedio y bêl, a phob rhyw ofer gampau. Yn y cynulliadau hyn yr oedd Harris yn cael gafael ar y bobl, ac i'r fath leoedd y cyfeiriai ei gamrau er mwyn eu cyfarch. Soniai yr hen ŵr am un tro neillduol. Yr oedd ymgynulliad o'r fath mewn lle a elwir y Waun-gron, yn mhlwyf Llandilotal-y-bont, nid pell o'r Goppa-fach; a'i fod ef, y pryd hwnw, yn ieuanc, yn myned i'r gamp, a bod Harris wedi dechreu pregethu cyn iddo ddyfod i'r lle; ond, pan oedd John Morgan ar ryw waun, tua chwarter milldir, neu fwy, oddiwrth y lle, disgynodd llais y pregethwr ar ei glust, a hyny "gyda'r fath awdurdod," meddai, "fel y teimlwn ef yn myned trwy fy esgyrn yn y fan." Bu yr oedfa hon yn foddion dychweliad iddo ef ac i eraill at y Duw byw, oddiwrth y pethau gweigion hyny.

Adroddai yr un gŵr am dro arall a ddygwyddodd mewn lle yn agos i Dantwyn, yn yr un plwyf, ond yr ochr arall i'r Goppa-fach. Daeth Harris i'r lle hwn, hefyd, pan oedd y bobl ar ganol eu difyrwch, yn campio ac yn dawnsio, ac a ddechreuodd lefaru; a thra yr oedd yn pregethu, mynai rhai o'r campwyr, o ddial arno am eu haflonyddu, ei faeddu, os nad ei ladd;