Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Williams Pantycelyn wedi cael ei anog er ys pedair blynedd gan ei frodyr mewn Cymdeithasfa i ddwyn allan ffrwyth ei awen er hyrwyddo mawl y cynulleidfaoedd, a dichon fod y penill neillduol uchod yn y llyfr sydd yn awr yn meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, or-wyres i'r bardd a'i cyfansoddodd, llyfr a orphenwyd fel y tybir oddiwrth ddyddiad sydd ar ei glawr Mawrth 25, 1745. O leiaf y mae yn bosibl fod y penill wedi ei gyfansoddi mor fore a 1747. Ond rhaid addef fod rhywbeth yn y penill yn peri i ni feddwl y gallai ei awdwr fod yn un wedi gweled aml a blin ofidiau. Dywedir hefyd fod ty Wm. Morgan wedi ei gofrestru i bregethu ynddo. Nid yw yn anmhosibl iddo[1] gael y fraint o letya Peter Williams yn 1747, pan yn 24ain oed, ac iddo gael y fraint o wneyd hyny wedi hyny yn mhen agos i haner can' mlynedd. Ond y mae yn dra anhebygol fod y ty wedi ei gofrestru yn 1747, O herwydd rhwng 1790 a 1800, ychydig o flynyddoedd cyn dechreu adeiladu capelau o ddifrif, y deffrowyd y Methodistiaid i gofrestru y tai annedd yr arferid pregethu ynddynt. Ond cymerwn ninau fel Ioan Pedr fod yr hanes am Peter Williams yn ymweled a'r Glyn, ac am Wm. Morgan yn ei noddi a'i groesawu, yn hollol wir o ran sylwedd, er na allwn fod yn sicr am amseriad ei holl ymweliadau a'r ardal hon.

Ychydig sydd genym i'w ddweyd am yr hyn a wneid gan y Methodistiaid yn yr ardal nes y deuwn yn lled agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cyfeiria nain Tudur Llwyd at Evan Moses a John Evans yn myned heibio a thros y mynydd i'r Weirglodd Gilfach, ac am y gweddio mewn hen furddyn yn agos i'r Nantglas, wrth fyned a dyfod i'r Weirglodd Gilfach. I'r rhai awyddus am foddion gras heblaw yr hyn a geid yn Eglwys y plwyf gan offeiriad na wyddai fod dim mwy mewn ailenedigaeth na rhoi dwr ar y talcen, yr oeddynt i'w cael yn y Bala ar un llaw, neu yn rhyw gwr o blwyf Llanuwchllyn ar y llaw arall. Gwnai Charles y telynwr ddefnydd mynych o enw un o dai yr ardal hon pan yn difyru boneddigion (?) erlidgar amgylchoedd y Bala, trwy ddynwared Howell Harris ac eraill yn pregethu. Ymddengys y byddai Morgan Llwyd yn ei ddydd yn arfer pregethu yn Brynhynod. Hyny mae yn debyg fu yn achlysur i Charles y telynwr ddifyru ei wrandawyr trwy ddweyd ei fod yn cymeryd ei destyn yn 'y bumed benod o ysgubor Brynhynod, a'r drydedd ystyllen yn y drws cefn.' Ceir

  1. Bu William Morgan farw yn 1807, yn 84 mlwydd oed; nid oedd ond blwyddyn o wahaniaeth oedran rhyngddo a'r Parch. Peter Williams. Ganwyd Peter Williams yn 1722, a William Morgan yn 1723.