Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydogaeth."-Hanes Eglwysi Annibynol Cymru. Awgrymir fod Dr. Lewis yn fwy enwog am gadarnhau yr eglwysi dan ei ofal nag am chwanegu at eu rhif, ond ychwanegwyd tua dau gant at rifedi. eglwys Dr. Lewis yn yr adfywiad grymus a gaed yn 1809, dwy flynedd neu dair cyn ei ymadawiad, fel yr oedd yn eglwys liosog mae yn ddiameu pan yr oedd efe yn rhoi ei gofal i fyny. Yr oedd hynafiaid llaws a fuont yn ddefnyddiol gyda'r Methodistiaid yn eu dydd yn aelodau yn yr eglwys hon-tad a mam y Parchn. Daniel Evans, Harlech, a Robert Evans, Llanidloes; taid a nain y Parchn. Thos, Jones, Kassia, ac Evan Jones, Adwy'r Clawdd; tad y Parch. O. Jones, B.A.

Ond yn amser olynydd Dr. Lewis, sef y Parch. Michael Jones, yn mhen o gylch saith mlynedd wedi ei sefydliad yma, torodd tymhestl fawr arno ef a'r eglwys dan ei ofal. Rhoddir ar ddeall fod gan rai amrywiol gymhellion i wrthwynebu Mr. Jones, ond iddynt daflu pob peth arall dros y bwrdd a chyhuddo y gweinidog o gyfeiliornad mewn barn, yr hyn a barodd ddadleuon dychrynllyd drwy yr holl wlad. Safodd y gweinidog fel derwen gadarn yn nghanol y dymhestl. Yn raddol ymddangosai ymraniad eglwysig fel yn anocheladwy. Ond cyn cyrhaedd y pwynt hwn, caed nifer o weinidogion parchusaf yr enwad i geisio heddychu y pleidiau. Cyfarfuasant i'r amcan hwnw ar ddydd gwaith, Rhagfyr 5, 1821, yn yr Hen Gapel. Ond methiant fu y cais at eu heddychu. Ar foreu Sabboth cymundeb, yn gynar yn y flwyddyn ddilynol, cymerodd y rhwygiad le. Pregethodd Mr. Jones fel arferol, a daeth i lawr o'r areithfa at y bwrdd i weinyddu yr ordinhad. Ond cyn iddo ddechreu ar y gwasanaeth hwnw, cyfododd blaenor y blaid wrthwynebol i fyny, a chyhoeddodd ei fod ef a'r blaid oedd yn anghytuno ag athrawiaeth Mr. Jones yn ymneillduo oddiwrtho ef a'i bleidwyr, ac aeth ef a'i blaid i oriel yr addoldy. Mewn odfa ddilynol y dydd hwnw hysbysodd Mr. Jones fod y rhai a ymneillduasant y bore wedi tori eu perthynas a'r eglwys yn yr Hen Gapel. Gwnaed cynyg arall gan weinidogion yr enwad i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond yn ofer. Wedi bod am ychydig yn addoli yn yr Hen Gapel ar Sabbothau a benodasid iddynt, a blino ar hyny, ymadawodd yr ymranwyr a'r capel yn gwbl, a chyfarfyddent a'u gilydd mewn ystafell eang yn mhentref Llanuwchllyn. Ond nid oedd fawr neb o weinidogion yr Annibynwyr a aent atynt i bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau. Yn fuan cododd gwyr o'u plith hwy eu hunain i bregethu iddynt, a dynion o nodwedd ragorol oeddynt hefyd, a bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn eu plith.