Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Er mwyn cael adroddiad diduedd gan un yn gwybod holl hanes yr helynt hon, gofynwyd gan awdwyr Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, i'r Parch. R. Thomas (Ap Fychan) roi adroddiad am dani. Dyfynwn ranau o'r adroddiad hwn er rhoi golwg i'r darllenydd ar yr helynt o safle un o'r Annibynwyr ffyddlonaf,—

Wedi dweyd fod tywydd tymhestlog Mr. Jones yn Llanuwchllyn yn arwach, ffrynicach, a hwy ei barhad na'r tywydd gerwin gafodd Jonathan Edwards yn Northampton, ä yn mlaen i ddweyd, "Barnai llawer fod yr holl fai ar Mr. Jones, a barnai llawer eraill fod yr holl fai ar y gynulleidfa. Yr oedd Mr. Jones yn wr mawr cadarn yn yr ysgrythyrau, cryf ei feddwl, eang ei amgyffredion, manwl a threiddiol o ran ei wybodaeth dduwinyddol a philosophaidd. Yr oedd yn hollol ddifrycheulyd o ran ei nodweddiad moesol. Ni chynygiodd neb erioed ei gyhuddo o anfoesoldeb. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb dwfn a diamheuol. "Yr oedd lliaws hefyd o'i bleidwyr yn yr eglwys yn bobl ddeallus, nodedig felly, ac yn lan a difrycheulyd o ran eu bucheddau. O'r ochr arall, yr oedd llawer o'r blaid wrthwynebol i Mr. Jones, er yn amddifad o syniadau eang a philosophaidd ar bynciau crefydd, yn ysgrythyrwyr rhagorol, ac yn dra chydnabyddus a syniadau eu hathraw blaenorol, yr Hybarch Dr. Lewis. Yr oedd yn eu mysg lawer o bobl onest a duwiol, yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gwrthwynebent olygiadau Duwinyddol Mr. Jones o gydwybod. Gwadu hyny fyddai'cario pethau i eithafion, ac amlygu rhagfarn a chulni meddwl hollol anheilwng o hanesydd teg a gonest. Wedi dadgan ei farn fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu a manylaf a fagodd Cymru, ond nad oedd yn rhydd oddiwrth wendidau, dywed Ap Vychan yn mhellach, Buasai y weinidogaeth yn yr Hen Gapel, fel yn y rhan fwyaf o leoedd eraill er's llawer o flynyddoedd, yn aros yn benaf ar athrawiaeth gras yn ei gwahanol ganghen- au, gan esgeuluso, feallai, yu ormodol y pethau a berthynant i lywodraeth foesol Duw a rhwymedigaethau dynion fel creaduriaid rhesymol a chyfrifol i'r llywodraeth hono. Wedi ei sefydliad yn yr ardal, troes Mr. Jones dros lawer o flynyddoedd holl nerth ei weinidogaeth i osod allan hawliau Duw fel llywydd, ac i gymhell ei wrandawyr i gyflawni eu dyledswydd fel deiliaid cyfrifol deddf ac efengyl. Chwalai au-noddfeydd dyrion yn ddarnau o'u cylch, a malai eu hesgusodion yn llwch. Gallai ei fod wedi aros ar yr hwyaf ar yr ochr yma i Dduwinyddiaeth, heb ddwyn yr ochr gyferbyniol ond anfynych i olwg ei wrandawyr, a gwyr pawb mai cwm oer iawn i fyw ynddo am lawer o flynyddoedd ydyw tir gallu dyn a'i ddyledswyddau. Yr oedd pregethau o natur y rhai a draddodai Mr. Jones i bobl oeddynt yn Galfiniaid go dynion, yn disgyn braidd yn oer ac yn annymunol ar eu clustiau. Heblaw hyny yr oedd Mr. Jones yn amddifad o ddawn i ddenu ei wrandawyr. Yr oedd yn berffaith feistr ar wawdiaeth, ond ni allai doddi ei wrandawyr i ffurf ei feddwl ei hun. Yr oedd hefyd yn rhy dyn ac yn rhy benderfynol feallai am ei ffordd, mewn pethau o ychydig bwys."

Yna rhydd Mr. Thomas fraslun o wrthwynebwyr Mr. Jones.

"Yr oedd yn eu plith rai a anghymeradwyent yr ymdrechion egniol a wnai efe o blaid yr Ysgol Sabbothol. Rhyw ffordd respectable o dori y Sabboth yn ol eu barn hwy oedd cadw Ysgol Sabbothol, a thaflent lawer o rwystrau ar ffordd ei chynydd a'i llwyddiant. Gwyddis hefyd fod llawer yn eu mysg yn anffafriol i weinidogaeth sefydlog yr efengyl. Rhyw ddrwg angenrheidiol (necessary evil), rhywbeth i'w goddef am na ellid bod hebddi oedd y weinidogaeth yn ol eu golygiad hwy. Yr oedd amryw o'r blaenoriaid wedi cael blas ar awdurdod, yn enwedig ar ol ymadawiad Dr. Lewis, a golygai yr henuriaid llywodraethol mai ganddynt hwy yr oedd hawl i ofalu am yr athrawiaeth a'r ddysgyblaeth yn nhy Dduw, ac mai cadeirydd eu cyfarfodydd yn