Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

unig oedd y gweinidog i fod. Arferent droi ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig allan o'r capel tra fyddid yn ymddiddan yn eu cylch, a throseddwyr yr un modd, yna gollyngid hwy i mewn ar ddiwedd y cyfarfod i glywed dedfryd yr eglwys ar eu materion. Gwrthwynebai Mr. Jones yr arfer hono yn hollol. Tybient hwythau ei fod yn myned a mwy na'i ran o lywodraeth yr eglwys. . Ond teg yw dweyd fod y dosbarth liosocaf o wrthwynebwyr Mr. Jones yn sefyll yn ei erbyn yn benderfynol, am eu bod yn credu yn gydwybodol ei fod yn cyfeiliorni mewn barn, ac yn gwyro oddiwrth y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Credent nad oedd ei olygiadau ar bechod, sef mai diffyg ydyw yn ei natur, yn gyson a'r pethau a ddywedir yn y Beibl am bechod. Credent nas gall dyn wneyd dim ond pechu nes y cyfnewidir ef trwy ras. Pan geisid dangos fod dau fath o allu, sef un naturiol ac un moesol, cyfariyddent hyny a'r geiriau, Ni ddichon nas gall chwaith,' &c. Cyfyngent yr Iawn i gylch eglwys Dduw, ac ni allent weled fod amcan yn y byd yn deilwng o aberth Crist ond gweithredol gadwedigaeth dynion, a gogoniant Duw yn hyny. Gan. mai yr eglwys yn unig a gedwir yn y pen draw ni allent hwy weled nad yr eglwys yn unig yw y rhai y bu Crist farw drostynt, a dywedent fod y rhai a ddalient fod Crist yn aberth dros holl ddynolryw, yn rhwym o ddal hefyd fod llawer o werth gwaed Crist yn myned i uffern yn barhaus. Yr oedd golygiad rhy fasnachol ar yr Iawn wedi eu niweidio a'u hanghymwyso i drin y nater yn deg. Barn- ent fod Mr. Jones yn Armin, pryd mewn gwirionedd Calfiniad cymedrol cryf ydoedd." (Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. I., tudal 416-—418).

Dywed Ap Fychan fod yr Hen Bobl, fel y gelwid hwy, yn dra chydnabyddus à syniadau eu hathraw blaenorol, yr Hybarch Ddr. Lewis. Gwarogaeth uchel i'w deilyngdod yw fod y diweddar Ddr. Lewis Edwards wedi ysgrifenu un o'i ddarnau goreu a'i ddodi fel Rhaglith i'w Gorph o Dduwinyddiaeth ef. Yn agos i ddiwedd y Rhaglith ceir y sylwadau a ganlyn,-

"Y gofyniad nesaf ydyw, pa fodd yr effeithiodd y Diwygiad Method istaidd ar Dduwinyddiaeth yn Nghymru? Gellid cymhwyso yr hyn a ddywedwyd eisoes am ansawdd y diwygiad yn gyffredinol fel atebiad. Ond y mae enghraifft i'w chael yn dwyn perthynas neillduol a Chymru, yn "Nghorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis. Y mae yn amlwg fod Dr. Lewis yn ddyn o feddwl cryf, ei fod wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid, a'i fod yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen. Y mae wedi ffurfio ei dduwinyddiaeth ar gynllun yr awdwyr goreu, ac wedi ymgadw yn well na llawer yn yr oes o'i flaen oddiwrth bob golygiad eithafol. Ond beth yw ei farn ef am ail-enedigaeth? Mor bell ag y medraf weled ei feddwl, y mae yn cau allan offerynoliaeth y Gair, ac yn dal ail-enedigaeth ddigyfrwng. Y mae hyn yn hollol groes i olygiadau yr hen Dadau Methodistaidd. Ni ddylid edrych ar Dr. Lewis fel cyfeiliornwr, er hyny y mae yma wahaniaeth, ac y mae hwn yn gysylltiedig a gwahaniaeth arall gyda golwg ar y berthynas rhwng ail-enedigaeth a ffydd. Y mae Dr. Lewis yn rhoi ailenedigaeth o flaen fydd, ac felly y mae yn rhaid i ddyn aros nes cael ei ail-eni cyn y gall feddwl am gredu yn Nghrist, tra yr oedd yr hen Fethodistiaid yn galw ar bawb i fyned rhag blaen at Grist, ac yn dweyd fod gan ddyn annuwiol hawl i gredu yn Nghrist, fel y mae yn cael ei ddatguddio yn y Gair yn Geidwad digonol i'r penaf o bechaduriaid. Mewn gair, yr effaith a gafodd Methodistiaeth ar Dduwinydd- iaeth Cymru oedd ei chodi i dir mwy rhydd, mwy eang, a mwy efengylaidd. Yr oedd ymraniad trwyadl wedi cymeryd lle yn mysg yr Anghydffurfwyr yn Nghymru ac yn Lloegr. Yr oedd un blaid wedi gwyro at Neonomiaeth i ddechreu, yna at Arminiaeth, yna at Ariaeth, yr hyn a'u harweiniodd o'r di- wedd i Sociniaeth. Er mwyn cadw yn ddigon pell oddiwrth y corsydd hyn,