Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moddion crefyddol yn benaf gan y ddau enwad, ymddengys na fu y rhan yma o'r plwyf yn amddifad o foddion mwy neu lai cyson gan y naill neu'r llall o'r ddau enwad sydd yn gryf yn y plwyf. Dywedir mai yn Ty'nyfedw yn y gymydogaeth hon, y cynhaliwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn yr holl blwyf, ac y mae profion fod seiat wedi cael ei chynal yma oddeutu can' mlynedd yn ol, pa un bynag a ellir ei hystyried yn eglwys ai peidio. Dechreuodd Mr. Foulk Evans bregethu pan yn 22ain oed, sef-tua'r flwyddyn 1804 neu 1805, ac yr oedd seiat yn Ty'nyfedw y pryd hyny, fel y gwelir oddiwrth y ffeithiau canlynol o Gofiant y Parch. Foulk Evans. Yr oedd cyfarfod gweddi yn cael ei gynal un boreu Sabboth mewn ffermdy o'r enw Dyfnant, ac ar ol y cyfarfod yr oeddynt yn myned y prydnawn dros Aran Benllyn i ymweled a brawd claf, yr hwn oedd yn byw yn Nantybarcut, ffermdy yn ardal Cynllwyd; ac ar y mynydd tra yn gorphwyso ychydig y cafodd nerth i hysbysu y cyfeillion oedd gydag ef fod arno awydd cryf i gynyg pregethu Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Yr oedd seiat yn cael ei chynal yn fuan ar ol hyny yn Nhy'nyfedw. Aeth ef a brawd arall o Lanuwchllyn gydag ef i'r cyfarfod, ac yno y pregethodd Mr. Foulk Evans ei bregeth gyntaf. Yr un a flaenorai gyda'r sciat a'r ysgol oedd David Edwards, gwr y ty, tad y Parch. David Edwards, Casnewydd. Cynorthwyid ef gyda'r Ysgol Sabbothol gan Mary Lewis, yr ysgolfeistres. Tua'r flwyddyn 1823 yr adeiladwyd yma gapel gyntaf. Y pryd hwnw caed prydles am 99 o flynyddoedd am 5/- o ardreth flynyddol, gan Elizabeth Owen, Talardd, Evan Thomas Evans, a John Thomas Evans; dyddiad y weithred yw Medi 29, 1823. Yr enw cyntaf yn rhestr yr ymddiriedolwyr yw Richard Jones, Wern, a'r enw olaf yw David Edwards, Ty'nyfedw. Bu Hugh Edwards, ei fab, yn cyflawni gwaith blaenor yma yn ddyfal am lawer o flynyddoedd, wedi ei ddewis gan yr eglwys i wneyd hyny, ond ni allwyd ei berswadio i ddyfod i'r Cyfarfod Misol i gael ei dderbyn. fel blaenor. Yn y flwyddyn 1872, dewiswyd W. Jones, Tynant, yn flaenor, a gwasanaethodd ei swydd hyd ei farwolaeth yn 1886. Yn cydweithio ag ef am rai blynyddoedd yr oedd Robert Roberts, Brynmelyn, ac oddeutu adeg ei ymfudiad ef a'i deulu i Patagonia, symudodd Mr. David Edwards o Landrillo i'r ardal, ac yn 1887 dewiswyd Mr. Robert Morris, Ty'nycae, i flaenori. Bechan o ran rhif yw yr eglwys hon, ond gan y gwneir hi i fyny o ychydig o deuluoedd cefnog yn y byd, y mae yn gallu ar brydiau wneyd casgliadau lled rymus. Rhif yr eglwys yn y flwyddyn 1868 ydoedd 24; ei rhif yn 1898 oedd 38. Bu y Parch. Robert William yn hynod o ffyddlon yn ei ddyddiau goreu yn dyfod yma i gynal cyfarfod eglwysig, a phan oedd yn henciddio, ymgymerodd y Parch