Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Methodistioeth Dwyrain Meirionydd.

——————

SYLWADAU ARWEINIOL

ENW Methodistaidd a ddaeth i arferiad tua thri-ugain mlynedd yn ol yw Dwyrain Meirionydd, ond y mae yn dynodi rhan o’r wlad y gosodwyd terfynau iddi gan natur. Pan y teimlwyd angen am ranu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, ni chaed anhawsder mawr i nodi y ffiniau, oherwydd y mae mynyddoedd cribog yr Aran, y Rhoballt, yr Arenig, a'r Mignynt a’u sodlau uchel yn ffurfio terfyn gorllewinol naturiol iawn, ac yn gwahanu y rhan hon or sir oddiwrth yr hyn a elwir y Rhan Orllewinol mor naturiol ag y mae mynyddoedd y Berwyn yr ochr ddeheuol yn ei gwahanu oddiwrth Sir Drefaldwyn. Ai chymeryd yn y cyfanswm o honi, sir fynyddig iawn yw Sir Feirionydd, yr hyn barai ei bod unwaith yn un an-hawdd ei theithio; ond wedi y rhaniad a wnaed arni y mae pob un or ddwy ran wedi dyfod yn fwy tramwyadwy, am fod rhan helaeth o’r parthau mwyaf anhygyrch yn gwneyd i fyny y terfyn trwchus yn gystal ag uchel rhwng Dwyrain a Gorllewin Meirionydd. Gwneir Dwyrain Meirionydd yn yr ystyr grefyddol a Methodistaidd i’r enw i fyny o ranau uchaf tri o ddyffrynoedd y rhed yr un nifer o afonydd trwyddynt, sef y Ddyfrdwy, y Ceiriog, a'r Conwy. Pan yn sefyll yn rhan fwyaf gorllewinol plwyf Llanuwchllyn, a’n cefn at Ddolgellau a’n hwyneb tua’r dwyrain, y mae rhan eangaf Dwyrain Meirionydd yn ymestyn o’n blaen am dros ugain milldir. Dyfrheir yr holl wlad hon, neu os myner cymerir ymaith ddyfroedd yr holl wlad hon o’r Garneddwen i Glyndyfrdwy gan yr afon Ddyfrdwy a’i haberoedd (tributaries) grymus y Tryweryn ar Alwen. Yn y pantle hwn y ceir y nifer fwyaf o lawer o eglwysi y Cyfarfod Misol. Ond nid y cwbl o honynt. Ar y llaw dde i ni, dros fraich gref or Berwyn, y mae dyffryn prydferth Llanarmon, a’r Ceiriog. yn rhedeg yn gyfochrog megis a’r Ddyfrdwy, nes y gostynga y Berwyn ei ben i ddyfroedd y Ceiriog gael ymuno â dyfroedd y Ddyfrdwy yn nyffryn Maelor islaw’r Waen. Y mae pump o eglwysi y Cyf¬arfod Misol yn y dyffryn cul hwn. Ar y llaw aswy drachefn, dros drumau uchel o fryniau ellir alw, os mynir, yn fynyddoedd, y mae rhan uchaf dyffryn y Conwy, ac y mae nifer bychan o eglwysi y Cyfarfod Misol yn y dyffryn hwn. Arferai eu nifer fod yn fwy; ond yn fuan ar ol ffurfiad Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy, aeth rhan bwysig