Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Sir Feirionydd, mewn ystyr grefyddol, i berthyn i’r Cyfarfod Misol hwnw, fel nad oes ond ychydig o’r ardaloedd ar lanau y Conwy yn perthyn yn awr i Ddwyrain Meirionydd.

Ni fedd Dwyrain Meirionydd un fodfedd o arfordir. Rhaid i’r tair afon a fuont yn ddyfal yn cafnio ac yn naddu ei dyffrynoedd ddeisyf caniatad i fyned i’r môr trwy derfynau Cyfarfodydd Misol Fflint a Dyffryn Conwy.

Yn ol hen raniad gwladol, ymrana dyffryn y Ddyfrdwy hefyd yn ddwy ran, Penllyn ac Edeyrnion, gan gynwys yn yr olaf yr hyn a elwid gynt Arglwyddiaeth Glyndyfrdwy. Gelwir ardaloedd glanau yr Alwen hefyd yn Ddosbarth Uwchaled.

Gwlad amaethyddol hollol bron yw y rhan hon o Feirionydd. Nid yw y gweithfeydd a geir ynddi ond rhai cymarol ddibwys, ac o gychwyniad diweddar; a lleihau yn hytrach na chynyddu y mae poblogaeth y rhan fwyaf o’r ardaloedd. Bychain yw ei threfi, ac araf yw cynydd eu trigolion, fel nad ydyw cynydd y boblogaeth yn y trefi ar ardaloedd gweithfaol ond prin ddigon i orbwyso y lleihad yn y rhanau mwyaf gwledig.

Er nad yw y rhan hon or wlad yn lliosog ei phobl, y mae o ran ei pherthynas a rhanau eraill o Ogledd Cymru yn lled ganolog. Ymae y Bala o ran agosrwydd mor gyfleus i Fangor neu Gonwy yn y Gogledd ag ydyw i Lanidloes neu y Drefnewydd yn y De, ac nid yw y pellder iddi o Gaerlleon neu Liverpool ond oddeutu yr un faint ag o Dowyn neu Aberdyfi. Buwyd yn cyrchu i Sassiwn y Bala o holl siroedd y Gogledd am lawer o flynyddoedd, ac yma y mae Coleg y Methodistiaid yn y Gogledd er adeg gyntaf ei sefydliad. Oherwydd teneuder y boblogaeth ar cyfyngiad a fu ar ei derfynau yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, ni ellir cyfrif Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd yn mysg Cyfarfodydd Misol mawrion y wlad. Dwy a deugain yw rhif yr eglwysi a berthyn iddo, ac y mae yn mysg y rhai hyny rai o’r eglwysi lleiaf a berthynant i’r Cyfundeb. Ychydig dros bedair mil yw rhif yr aelodau eglwysig yn awr yn yr holl eglwysi hyn.

Y mae genymn yn y tudalenau sydd i ddilyn i geisio rhoi ychydig o hanes camrau y llwyddiant y gwelodd Duw yn dda ei roddi ar lafur ei bobl yn yr amser a aeth heibio, fel ag i beri er yr holl ymfudo i ranau eraill o’r wlad fod cynifer o filoedd yn arddel eu hunain yn gredinwyr perthynol i'n Cyfundeb yn y rhan hon o Gymru.