Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I

Sefyllfa Foesol a Chrefyddol y rhan hon o Gymru cyn dyfodiad Methodistiaeth.

UN o dadau Methodistiaid Sir Feirionydd, ac un a dreuliodd oes faith o fewn terfynau Dwyrain Meirionydd, yw y tyst egluraf sydd genym or hyn oedd cyflwr y rhan hon or wlad gant a haner o flynyddoedd yn ol, sef yr Hybarch Mr. John Evans o’r Bala. Cawn dystiolaeth i’r un perwyl am y rhan hon a rhanau eraill o Gymru gan amryw eraill, megis Mr. Robert Jones, Rhoslan; Mr. Lewis Morris, Mr. Lewis Williams, Llanfachreth, a lliaws eraill, ond yr hynaf o honynt oll, ac nid gormod yw dweyd yr enwocaf o honynt oll, oedd John Evans y Bala. Adlais, i raddau, o’i eiriau ef yw yr hyn a geir gan y lleill a enwyd, a chan awdwr parchedig Methodistiaeth Cymru. A chan mai yn naear Dwyrain Meirionydd y mae llwch y sant hwn yn gorphwys, teg yw i ni roi ei dystiolaeth i lawr yn y fan yma ar y pwnc hwn, er ei bod wedi ei rhoi i lawr lawer gwaith or blaen mewn rhyw gysylltiad neu gilydd.

Trwy feddylgarwch Mr. Charles, caed y dystiolaeth eglur hon o enau John Evans pan oedd yn agos i bedwar ugain oed, eto ddwy flynedd ar bymtheg cyn ei farwolaeth, a chyn iw gyneddfau mewn un modd fyned yn wywedig. Cofnodwyd ei eiriau yn ofalus gan Mr. Charles, a chawsant ymddangos yn y rhifyn cyntaf o’r Drysorfa Ysbrydol a gyhoeddwyd Ebrill, 1799. Dyma y dystiolaeth

Scrutator (sef Mr. Charles): Dydd da i chwi, fy hen gyfaill. Eisteddwch. Beth yw eich oedran?

Senex (sef Mr John Evans): Yr wyf yn tynu at bedwar ugain.

Scrutator: Pa bryd y daethoch gyntaf i’r parthau hyn ?

Senex: Mi a ddaethuni yma yn y flwyddyn 1742.

Scrutator: Y mae cryn gyfnewidiad o ran crefydd a moesau iw weled yma, wrth gofio agwedd y wlad y pryd hyny, onid oes?

Senex: O ryfedd son oes goeliaf fi, gyfnewidiad mawr iawn.

Scrutator: Llawer o anwybodaeth ac afreolaeth oedd yr amser hwnw, tebygol, ac or hyn y mae gormod hyd heddyw, ysywaeth.

Senex: Ië, yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt dra anaml; ychydig iawn o’r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr, ac arferion y wlad oeddynt dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwŷr llên a gwŷr lleŷg yn o gyffelyb i'w gilydd! Y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion sanctaidd Duw; ac yn dra esgeulus o’i addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd, oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio y wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth ar addysgiadau Yn y llanau, yn gyffredin, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll