Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a diwygiaw oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, nac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glan.

Mewn atebiad i gwestiwn arall yn gofyn iddo fynegi iddo rywfaint o’u dull a’u harferion, dywed Senex: Yr oedd y bobl gyffredin yn fwy am fyned i’r llanau y bore Sabboth nag oedd y boneddigion; ond brydnawniau Sabbothau rhedeg y byddent hwythau at eu chwareuyddiaethau. Nid oedd odid Sul brydnawn na byddai y peth a elwid chwaryddfa gampau yn rhyw fan yn y wlad. Yn y rhain y byddai gwyr ieuainc yn dangos eu grymusder, a llawer iawn o bobl y cymydogaethau yn dyfod i edrych arnynt. Ar nos Sadyrnau, yn enwedig yn yr haf, y byddai ieuenctyd, meibion a merched, yn cadw y pethau a elwid Nosweithiau Canu, ac yn difyru eu hunain wrth ganu efo y delyn a’r ddawns hyd doriad y wawr ddydd Sabboth. Yn y dref yma (Bala,) hwy fyddent ar brydnawniau Sabbothau yn canu ac yn dawnsio yn y tafarndai, yn chwareu tennis ar yr Hall, yn hobian, &c. Yn mhob cwr or dref byddai rhyw chwareuyddiaeth yn myned yn mlaen tra y parhai goleu dydd Sul. Yn yr haf, byddai Interludiau yn cael eu chwareu ar fwrdd yr Hall ar brydnawniau Sabbothau, a boneddigion a chyffredin yn cyd-ymddifyru yn y modd hwn i halogi dydd yr Arglwydd. Yr oedd hefyd finteioedd or rhai a elwid Y Bobl Gerdded yn dyfod i’r dref yma ar amserau; crwydriaid oedd y rhain, yn tramwy y wlad i gardota, os nad pethau gwaeth na hyny. Yr oeddynt o fucheddau llygredig ac anifeilaidd, yn ormes ar y wlad, ac yn gywilydd i’r swyddogion am eu goddef. Dyma beth o ddull ein gwlad o ran ei moesau yn y flwyddyn 1742, ac y rhawg wedi hyny. Am wir grefydd a duwioldeb, os wrth y ffrwythau yr adwaenir hwynt, nid oedd yma nemawr or hyn lleiaf i’m golwg i.

Cyn sylwi yn fanylach ar gynwys y dystiolaeth, gellir sylwi ar y dull neillduol o gymedrol a diduedd yn yr hwn y rhoddir hi. Hynafgwr pwyllog, hynod o gywir ei farn ar bethau yn gyffredinol, ac un na ddangosodd erioed yn ei oes faith duedd at ysbryd dadleu-gar, sydd yn rhoddi y dystiolaeth, ac amlwg yw fod ei chywirdeb uwchlaw amheuaeth yn meddwl Mr. Charles, yr hwn oedd ei hunan yn ŵr coeth a llednais, hynod am ei bwyll, ei fwyneidd-dra brawdol, ai ysbryd di-ragfarn.

Ceir yn y geiriau a ddyfynwyd dystiolaeth hynod o bendant o’r ddau beth, —1: Fod tywyllwch, difaterwch, ac anfoesoldeb dybryd yn ffynu yn y rhan hon or wlad fel mewn rhanau eraill o Gymru, yn y ddeunawfed ganrif, yn enwedig yn y rhan gyntaf o honi. 2: Mai eiddil ac aneffeithiol iawn oedd yr ymdrechion a wneid i ymlid