Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y tywyllwch ac i wrthweithio y llygredigaethau hyd nes y caed y Diwygiad a roes gychwyn i Fethodistiaeth a meithriniad i eglwysi Ymneillduol Cymru. Y mae awdwr parchedig Methodistiaeth Cymru yn galw sylw at dystiolaeth Mr. John Evans, ac yn ychwanegu tystiolaethau lawer a gafwyd gan eraill nad oeddynt yn gallu myned mor bell yn ol, hwyrach, a'r hynafgwr o'r Bala, ond oeddynt mor gredadwy; ac am eu bod yn byw mewn rhanau gwahanol o'r wlad, y mae eu tystiolaethau yn profi fod y wlad yn gyffredinol yn debyg i'r hyn oedd y Bala ar amgylchoedd.

Ysgrifenwyr Eglwysig a rhai eraill yn tueddu i ameu cywirdeb y desgrifiad uchod

.

Tuedd ysgrifenwyr eglwysig yr oes hon, a rhai perthynol i enwadau Ymneillduol, yw dweyd fod y Diwygwyr Methodistaidd wedi tynu darlun rhy dywyll a phruddaidd o agwedd anfoesol ac anghrefyddol Cymru cyn y Diwygid y cawsant hwy law yn ei ddygiad oddiamgylch. Amharod yw rhai Eglwyswyr i gydnabod fod y chwareuyddiaethau oeddynt mewn bri mor dra niweidiol i grefydd a moesau y wlad ag yr honir eu bod, ac nid yw pawb o haneswyr yr enwadau hyny sydd yn gallu olrhain eu tarddiad i'r hen Anghydffurfwyr yn barod i addef fod yr Eglwysi Anghydffurfiol mor ychydig o rifedi ac mor amddifad o nerth ysbrydol ag y dywedir eu bod gan rai or Diwygwyr Methodistaidd.

Gyda'r amcan o gael allan yn eglurach wir sefyllfa y wlad ar y pryd yr ydym yn cyfeirio ato yn awr, ac hefyd er mwyn amddiffyn geirwiredd a chywirdeb y rhai hyny or Tadau a roddasant eu tystiolaeth am yr hyn a welsant yn eu dydd, y mae awdwyr Y Tadau Methodistaidd, yn y benod gyntaf o'r llyfr tra rhagorol hwnw, yn gwneyd sylwadau gwerthfawr y cymerwn ganiatad i'w dyfynu yn y fan hon. Cynwysiad y benod y cyfeiriwn ati yw Sefyllfa foesol Prydain yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth— cyflwr Cymru o angenrheidrwydd yn gyffelyb. 0 dan y penawd yna, eir yn mlaen i ddweyd:— Y mae yn amheus a fu crefydd ysbrydol erioed yn îs yn Mhrydain er pan y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn yr ynys, nag adeg dechreuad Methodistiaeth. Yr oedd y Puritaniaid gyda'u bywyd a'u harferion personol a theuluaidd dy-syml, eu gwrthnaws at bob rhodres, gwag ymddangosiad a balchder, eu difrifwch angerddol a'u cydnabyddiaeth eang â Gair yr Arglwydd wedi eu rhifo i'r bedd, ac ar eu hol cyfodasai oes arall hollol wahanol o ran ysbryd, arferion, a moes, yr hon oedd wedi ymroddi i bob math o chwareu, a phob math o lygredigaeth. Gellir