Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olrhain y cyfnewidiad mewn rhan i wrth-weithiad naturiol yn erbyn yr ysbryd Puritanaidd, yr hwn oedd o bosibl yn rhy lym; mewn rhan i ddylanwad llygredig Llys Siarl yr Ail, yn yr hwn y gwawdid rhinwedd a phob math o ddifrifwch; ond yn benaf i lygredigaeth y galon ddynol, yr hon sydd yn unig yn ddrygionus bob amser. Nid oedd prinder dynion galluog yr adeg hon, ond nid yw talent bob amser yn esgor ar ddaioni. Wedi hyny, dyfynir yr hyn a ddywedwyd yn y North British Review am 1847:— Ni wawriodd canrif erioed ar Loegr Gristionogol mor amddifad o enaid ac o ffydd a'r hon a gychwynodd gyda theyrnasiad y Frenhines Ann, ac a gyrhaeddodd ei chanolddydd dan Siôr yr Ail (1702—1760.) Athronydd yr oes oedd Bolingbroke, ei haddysgydd mewn moesoldeb oedd Addison, ei phrydydd oedd Pope, ai phregethwr oedd Atterbury. Gwisgai y byd olwg segur anniddig, tranoeth dydd gwyl gwallgof. Cadarnheir y desgrifiad gan y rhai oedd yn byw ar y pryd. Dywed Esgob Lichfield, Yn 1724, mewn pregeth o flaen y Gymdeithas er diwygio moesau: Dydd yr Arglwydd yn awr yw dydd marchnad y diafol. Ymroddir i fwy o anlladrwydd, i fwy o feddwdod, ac i fwy o gynhenau; cyflawnir mwy o fwrdradau a mwy o bechod ar y dydd hwn nag ar holl ddyddiau eraill yr wythnos. Y mae diodydd cryfion wedi dyfod yn haint yn y ddinas. Y mae mwy o bobl yn marw or gwahanol glefydau a gynyrchir gan ymarferiad cyson o frandy a gwin nag sydd o bob afiechyd arall o ba natur bynag. Cyfiawnheir anfoesoldeb oddiar egwyddor. Ca llyfrau aflan farchnad mor dda fel ag i gefnogi y fasnach o'u cyhoeddi. Nid oes un pechod nad yw wedi ffeindio ysgrifenydd i'w ddysgu a'i amddiffyn, a llyfrwerthwr a phedlar i'w daenu ar led. Yn Llundain yr oedd un tŷ o bob chwech yn wirottŷ. Ar eu sign-boards addawai y tafarnwyr y gwnaent ddyn yn feddw am geiniog, ac y ffeindient wellt iddo i orwedd arno nes y byddai wedi ad-feddianu ei synwyrau. Afradedd oedd trefn y dydd. Nid oedd un teulu o bob deg yn ymgais at dalu eu ffordd. Bob nos, goleuid y gerddi cyhoeddus â llusernau dirif, lle yr ymgynullai, wedi ymwisgo mewn sidan a phorphor, a chyda mwgwd ar eu hwynebau, ladron, oferwyr, hap-chwareuwyr a phuteiniaid yn gymysg â chyfoethogion a phendefigion o'r safle uchaf, a lle y carient yn mlaen ymddiddanion anniwair, ac y sibrydid athrod celwyddog. Rhaid oedd cael arian, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd pa fodd y ceid hwynt. Dywed y Weekly Miscellany am fod y bobl wedi ymgladdu mewn pleser, fod ymgais at fyw yn dduwiol yn cael edrych arno mor hynod a phe yr ai dyn i'r heol wedi ymwisgo yn nillad ei daid, a bod clybiau anffyddol wedi eu ffurfio gyda'r amcan addefedig o wneyd y bobl yn genedl aflan.