Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r diwedd, dychrynodd yr awdurdodau gwladol oblegid y llygredigaethau a'r anfoesoldeb. Apwyntiwyd Pwyllgor gan Dŷ'r Arglwyddi, i chwilio i mewn i achosion yr anfoesoldeb ar halogedigaeth rhemp presenol. Yn 1744 darfu i Uchel-reithwyr Middlesex gyflwyno y cwyn canlynol i'r Barnwr yn y Frawdlys: Fod y bobl yn cael eu llithio i foethusrwydd, afradedd, a segurdod; trwy hyn, fod teuluoedd yn cael eu dinystrio, ar deyrnas yn cael ei di-anrhydeddu, ac oni fyddai i rhyw awdurdod roddi terfyn ar y fath fywyd afradlon, eu bod yn ofni yr arweiniai i ddinystr y genedl. Mewn gwirionedd, yr oedd anwiredd yn prysur ddatod seiliau cymdeithas; wedi taflu rhinwedd a chrefydd dros y bwrdd, nid oedd gan y bobl nerth i ddim; bygythiai eu blysiau droi yn feddau iddynt.

Am glerigwyr yr Eglwys Sefydledig, yr oedd llu mawr o honynt yn arwain bywyd anfucheddol iawn. Gallent herio y cryfaf yn yr ardal am gryfder i yfed cwrw a gwirod; a medrent ymgystadlu a neb pwy bynag yn y gadair hirnos gauaf mewn adrodd ystoriau gogleisiol ac anweddaidd. Dywed Esgob Burnet, yn y flwyddyn 1713, fod y nifer fwyaf o'r rhai a ddeuent i'w hordeinio mor anwybodus, fel na allai neb gael syniad am faint eu hanwybodaeth ond y rhai y gorfodid hwy i wybod am dano.

Ychydig, neu ddim gwell oedd pethau yn mysg yr Ymneillduwyr. Yr oedd difrawder cyffredinol ac oerni gauafaidd wedi ymdaenu dros eu cynulleidfaoedd, a chrefydd ysbrydol yn nodedig o isel yn eu plith, a llawer o'u gweinidogion yn esgeulus ac yn arwain bucheddau anfoesol.—Y Tadau Methodistaidd, Cyf 1., tud. 1— 3.

Dywed awdwyr y Tadau Methodistaidd eu bod hwy wedi ymhelaethu ar sefyllfa crefydd a moesoldeb yn Lloegr, am fod yr unrhyw achosion i raddau ar waith yn Nghymru. Sylwa y Parch. John Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru, mewn un man, fod yn fantais i breswylwyr y Dywysogaeth, ar ryw dymhorau, fod eu gwlad yn anghysbell ac anhygyrch, ond yn anfantais ar dymhorau eraill. Gwell oedd arnynt ar adegau o erledigaeth grefyddol, neu o derfysgoedd gwladol, gan y diangent o leiaf rhag blaen y gawod; ond gwaeth oedd arnynt pan fyddai gwybodaeth yn cynyddu, a manteision crefyddol yn amlhau, gan mor ychydig oedd iddynt hwy o ran na chyfran ynddynt. Yr oeddynt fel pobl Lais gynt, yn bobl lonydd a diofal, wedi eu neillduo gan eu hiaith a gerwinder eu gwlad oddiwrth y gweddill o'r deyrnas. Ac os mwynhaent, ar y cyfrifon hyn, fwy o heddwch fel cwr bychan o'r deyrnas, prin yn deilwng o sylw, dyoddefent oblegid hyny mewn ystyriaethau eraill. Mwy oedd eu heddwch, maen wir, ond mwy hefyd oedd eu hanwybodaeth. Nid oedd na llenyddiaeth na masnach y pryd hyny wedi cyffroi y Cymry o'u cwsg. Nid oedd ond ychydig iawn o