Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidog neu y crefyddwr difrifol pan y ceid ef, ac na allent oddef y rhai a godent eu llef yn erbyn llygredigaeth ac anfoesoldeb y wlad? Yr ydym i gofio fod gelyniaeth calon dyn at sancteiddrwydd yn gryf bob amser, ac i gofio fod addysg yn brin iawn yn y wlad, a bod llawer or offeiriaid ar uchelwyr yn anllythrenog. Ac er nad oedd y gagendor rhwng Cymru dawel a Lloegr annuwiol ac anffyddol mor lydan fel nad oedd y trigolion yn ymgymysgu llawer a'u gilydd, yn enwedig yr uchelwyr, nid oedd crefydd yn manteisio nemawr ar hyny. Pan yr oedd yr ysgolion yn ychydig yn Nghymru, ac ambell un o'r teuluoedd uwchaf yn myned i'r ysgol i Loegr, deuai y rhai hyny yn ol wedi ymlygru a llyncu syniadau anffyddol y lleoedd y buont ynddynt. Dall i bob rhinwedd, parod i erlid pob daioni, oedd llawer o uchelwyr Cymru.

PENNOD II

Ychydig yn Cael ei Wneyd Tuagat Wrthweithio y Llygredigaeth

GEILW Mr. John Evans sylw neillduol at eiddilwch ac aneffeithioldeb egnion yr Eglwys i wrthweithio yr anfoesoldeb a ffynai, ac i symud ymaith y tywyllwch. Ac ystyried ei bwyll a’i gymedroldeb ar bob mater fel hwn, y mae ei eiriau yn rhai cryfion iawn. Ac nid oedd yr athrawiaeth ar addysgiadau yn y llanau, medd yr hynafgwr hybarch, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll a diwygiaw oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, nac adnewyddiad yr Ysbryd Glan. Ac nid oes un sail i ameu cywirdeb y dystiolaeth hon. Wrth edrych dros restr enwau clerigwyr yr Eglwys Wladol yn y rhan hon o’r wlad, o amser y Puritaniaid hyd ddechreu y ganrif ddiweddaf, gwelir nad oes nemawr un o honynt wedi enill lle iddo ei hun mewn hanesiaeth fel pregethwr o ddim grymusder. Adwaenir y Parch. Edward Lloyd, M.A., gweinidog plwyf Llangower o 1645 1685, fel awdwr Traethawd ar Feddyginiaeth yn y Gymraeg, ac yr oedd hefyd yn dad i’r Parch. William Lloyd, D.D., Esgob Norwich,[1] yr

  1. Buddiol fyddai i’r darllenydd sylwi mai nid yr un yw y Wm. Lloyd hwn ar Wm. Lloyd oedd tua’r un amser yn Esgob Llanelwy, am yr hwn y ceir achlysur i goffau eto. Disgynydd o deulu yr Henblas, Sir Fôn, oedd William Lloyd, D.D., Esgob Llanelwy. Ganwyd ef yn Rheithordy Tilehurst, swydd Berks, lle yr oedd ei dad yn Rheithor, yn Ebrill, 1627. Gwnaed ef yn Esgob Llanelwy yn 1680. Yr oedd ef yn un o’r saith Esgob a lawnodasant y Ddeiseb at Iago yr Ail, i ddeisyf cael peidio darllen y Dadganiad (Declaration of Indulgence) yn yr eglwysi, cyn i Iago orfod rhoi i fyny ei orsedd.

    Traddodwyd ef ar Esgobion eraill i’r Tŵr ar yr 8fed o Fehefin, 1688, ond cawsant eu rhyddhau ar y 30ain o’r un mis, yn nghanol llawenydd dinasyddion Llundain. Bu yr Esgob hwn farw Awst 30, 1717, yn 91 mwlydd oed. Am y Parch. William Lloyd, D.D., mab Periglor Llangower, cysegrwyd ef yn Ebrill 1676, yn Esgob Llandaf; dyrchafwyd ef oddiyno i Peterborough, yn Mawrth 1679; ac oddiyno i Norwich, yn Mehefin 1685, y flwyddyn y bu farw ei dad. Bwriwyd ef allan o’r esgobaeth hono yn 1691, am wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary.