Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn a ddangosodd annibyniaeth meddwl trwy wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary. Ond nid oes prawf fod y tad yn bregethwr da, ac am y mab, yn annibynol ar y ffaith mai yn Lloegr y treuliodd ei oes gyhoeddus, nid oedd ei waith yn gwrthod cymeryd y llw yn dangos sêl dros Brotestaniaeth Efengylaidd,[1] oherwydd mantais i Brotestaniaeth ar y cyfan, yn gystal ag i ryddid gwladol, fu dyfodiad y Tywysog William i’r wlad i gyddeyrnasu a'i wraig, merch Iago yr Ail. Yr oedd y Parch. Edward Samuel yn Gymreigydd da, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau buddiol, ond nid oes sail i feddwl ei fod ef yn bregethwr nerthol, nac yn fugail llafurus

Yn Nrych yr Amseroedd (Argraphiad Llanrwst, tudal. 47—56) cyfeirir at yr anwybodaeth ar anystyriaeth oedd yn Nghymru yn more oes yr awdwr, a gelwir sylw neillduol at y ffaith fod lliaws o’r ofergoelion ar arferion ffol yn weddillion Pabyddiaeth,—awgrym na adawodd y Diwygiad Protestanaidd, na llafur y Puritaniaid, argraff ddofn ar ein cenedl. Noda arferion yn nglyn a genedigaethau ac a chladdu y meirw, a sawrent yn drwm o Babyddiaeth; ac y mae un o honynt, sef offrymu mewn claddedigaethau heb ei rhoi heibio yn llwyr y dyddiau hyn. Fel engraifft o Esgob a safai yn wrol dros y gwirionedd, crybwylla am un o Esgobion Cymru, Dr. Hoadley, Esgob Bangor, yr hwn a bregethodd o flaen y Brenin Sior I. yn fuan ar ol marwolaeth y Frenhines Ann, yn yr hon bregeth y dywedai nad oedd teyrnas Crist o’r byd hwn, ac na wnaeth Crist erioed Esgobion yn Arglwyddi. Yr oedd Dr. Humphreys y Gesail, Esgob Bangor hefyd, yn un hynod ar gyfrif ei hynawsedd, yr hyn a barodd i'r Brenin William ei ddewis yn mysg eraill i ymgeisio at wneyd heddwch rhwng Eglwys Loegr ar Ymneillduwyr.

  1. Ymwrthodwyd âr Brenin Iago yr 2il, oherwydd ei ddiystyrwch o’r Cyf­amoddiad Prydeinig, a’i ogwydd cryf at Babyddiaeth. Galwyd Mary, yr hon oedd ferch i Iago yr Ail, drosodd, am fod teimlad y wlad yn lled gyffredinol o blaid hyny, y Whigiaid a gymerent y rhan fwyaf blaenllaw yn yr alwad hon. O safle y gwladgarwr Cymreig Eglwysig, fel y dengys Mr. J. Arthur Price, M.A., mewn ysgrifau yn Wales, am y blynyddoedd 1894 — 95, y mae y Stuarts yn hawlio cydymdeimlad. Cavaliers yn benaf oedd y Cymry yn ystod y Rhyfel Gartrefol, a cheid David Morgan yn y De, a Syr Watkin W. Wynn yn y Gogledd, a Mr. Vaughan, un o hynafiaid Cardinal Vaughan, yn pleidio yr Ymhonwr mor ddiweddar a 1745. Nid oedd Uchel Eglwyswyr fel Huw Morus yn selog dros deulu Hanover, a beiï'r y teulu yn awr am roi i ni gymaint o Esgobion Seisnig ar draul esgeuluso Cymry gwladgarol a dysgedig.