Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu y Crynwyr ar un adeg yn lled liosog mewn rhai ardaloedd yn Nghymru, nad oes ynddynt yn awr nemawr o goffâd am danynt. Y ddau ŵr perthynol i'r blaid hon y mae eu henwau yn fwyaf adnabyddus i ni, hwyrach, yw Richard Davies, Cloddiau Cochion, a Charles Lloyd, Ysw., Dolobran. Ganwyd Richard Davies yn 1635, a bu fyw hyd y flwyddyn 1710. Yr oedd wedi ymuno âr Crynwyr pan yn 22ain oed, sef yn y flwyddyn 1657. Yr oedd cryn nifer o'r blaid hon i'w cael yn Sir Drefaldwyn ddau can mlynedd a mwy yn ol. Yn nesaf at Sir Drefaldwyn, daw Sir Feirionydd fel maes y bu y Crynwyr yn llafurio ynddo.

Dywed Mr. Edward Griffith mewn ysgrif yn y Geninen am 1890, i George Fox a John ap John ymweld â Dolgellau yn y flwyddyn 1657, a barna Mr. Griffith mai dyma y tro cyntaf i athrawiaeth newydd a dieithr y Crynwyr gael ei phregethu yn y lle. Bu eu dyfodiad yn achlysur o gynhwrf mawr. Arhosasant yno am beth amser, ac ar ddiwedd yr arhosiad y mae George Fox yn bendithio yr Arglwydd am y rhagolwg a welai y byddai i lawer o bobl gael eu casglu at yr Arglwydd Iesu. Ac fe fu y llwyddiant yn fawr, ar erlid hefyd yn fawr. Nid yw yr hanes a geir am danynt am y 3Oain mlynedd dilynol ond un gyfres o'r erledigaethau mwyaf creulon. Allan o'r lluaws Crynwyr enwog crybwyllwn am ddau yn unig, gan mai perthyn i Orllewin Meirionydd y mae Dolgellau ar ardaloedd cylchynol. Y cyntaf a enwn yw Rowland Ellis. Un o'r teuluoedd a ddyoddefodd yr erledigaeth ffyrnicaf yr holl adeg yna oedd teulu Rowland Ellis, Brynmawr. Amaethdy yn sefyll oddeutu milldir a haner o Ddolgellau yw Brynmawr, fwy yn nghyfeiriad y Mynydd Moel na'r Gader. Yma y ganwyd Rowland Ellis yn 1650, ac yr oedd yn 7 mlwydd oed pan ymwelodd George Fox a John ap John â'r dref. Enillwyd ei dad, Ellis Price, a'i fam, yr hon oedd ferch Llwyndu, Llwyngwril, i gofleidio egwyddorion y Crynwyr, a daethant ill dau yn Grynwyr selog. Ar y fath aelwyd â hon, a than addysg y fath rieni, y mae Robert, eu hunig fab, yn dyfod i gofleidio yr un golygiadau, a chyn bod yn 22ain oed y mae yn ymgysegru i'r weinidogaeth gyda'r blaid hon. Tua'r adeg yr oedd ef yn dechreu pregethu yr oedd un Walcot wedi ei benodi yn farnwr ar dair Sir yn Ngogledd Cymru, yr hwn oedd yn benderfynol o ddiwreiddio y Crynwyr Cymreig oddiar wyneb y ddaear. Dygwyd lliaws o honynt ger ei fron, ac ar eu gwaith yn gwrthod cymeryd y llŵ o ffyddlondeb ac uwchafiaeth, dywedai fod gwrthod cymeryd y llwon hyn yn deyrndrosedd, ac y gweithredai yn eu herbyn fel rhai euog o'r cyfryw drosedd, yr hyn oedd yn peryglu, nid yn unig eu meddianau,