Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6 yn diolch i Olygwyr y Tadau Methodistaidd, y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, a Mr. Wm. Morgan, Y.H., Pant, am ganiatad i ddyfynu braidd yn helaeth o'u llyfr, ac am fenthyg amryw o'r blocks. Am y darluniau eraill, yr ydys yn rhwymedig i gydnabod caredigrwydd y rhai canlynol, —Mr. D. P. Davies, Photographer, Corwen; Mr. H. W. Lloyd, Chemist a Photographer, Bala; Parch. Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau; Mri. Davies ac Evans, Bala; Mr. R. Thomas, Llandderfel; yn nghyda chyfeillion a theuluoedd y rhai y ceir darluniau o honynt, &c.

Nid oes genyf ond gobeithio y bydd i Dduw pob gras, yr hwn a nerthodd y tadau, ac a wnaeth gymaint trwyddynt yn eu dydd, fendithio eu llafur yn gystal a'r hanes am danynt yn y Gyfrol hon.

W. WILLIAMS.

Glyndyfrdwy,
Ebrill 29, 1902.