Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Bala o hyn allan. Yr oedd ef a'i wraig yn gallu bod yn rhydd oddiwrth bryder gyda golwg ar fodd i fyw, ond yr oedd yn awyddus am le i wasanaethu yn yr Eglwys Sefydledig. Mewn llythyr at gyfaill, dyddiedig Medi 29, 1783, ryw bum' wythnos ar ol ei briodas, ysgrifena: "Yr wyf yn awr yn aros i weled beth a wna yr Arglwydd a mi, gan ddefnyddio pob moddion yn fy ngallu i geisio rhyw le i wasanaethu o fewn yr Eglwys Sefydledig, nid er mwyn unrhyw dal a allwn gael, ond oherwydd cydwybod. Gallwn fyw yn annibynol ar yr Eglwys, ond yr wyf yn Eglwyswr o gydwybod, ac felly ni adawaf hi ar unrhyw gyfrif, oddieithr i mi gael fy ngorfodi i hyny. Ond gallwch yn hawdd ddeall pa mor aniddig ac anghysurus yw peidio gwneyd dim. Ni theimlais erioed o'r blaen i'r un graddau, nerth y geiriau 'Gwae fi, oni phregethaf yr efengyl.'" Cafodd le fel curad yn Shawbury, ond gan i ddrws agor oddeutu yr adeg hon iddo gael curadiaeth Llanymawddwy, rhoddodd i fyny ei le yn Shawbury. Cafodd rybudd i ymadael yn fuan o Lanymawddwy, oherwydd i rai o'r plwyfolion achwyn arno wrth y periglor ei fod yn cateceisio y plant ar ol y Gosper. Yn ngwyneb fod y drws mor gauedig o'i flaen, ymgynghorai a'i gyfeillion, yn eu mysg y Parch. John Newton, yr hwn a'i cynghorai i ymadael â Chymru a myned i Loegr, ond nid oedd yn barod i wneyd hyny. Yr oedd wedi cymeryd Cymru fel ei wraig, er gwell ac er gwaeth, hyd oni wahanai angeu hwynt. Cyn ymadael yn weithredol o Lanymawddwy, ymddengys iddo apelio at yr Esgob Shepley, Esgob Llanelwy ar y pryd, ond ni atebodd ei apel ef un dyben cyn gadael yr eglwys yn llwyr. Y mae yn ymgymeryd a dysgu pobl ieuainc y Bala yn egwyddorion crefydd. Y mae yn eu gwahodd i'w dy ar brydnawn Sabbothau. Gan mor ddeniadol oedd ei ddull, y mae y tŷ yn myned yn fuan yn rhy fychan i'r nifer a ddeuent yn nghyd. Yn y cyfwng hwn, y mae Methodistiaid y Bala yn cynyg y capel iddo i fyned yn mlaen gydag addysgu yr ieuenctyd ar brydnawn Sabboth, yn gymaint ag nad oedd un moddion yn cael ei gynal ynddo yn y prydnawn y pryd hwnw. Derbyniodd yntau y cynygiad gyda diolchgarwch. Fe welir fod y cydymdeimlad rhyngddo a'r Methodistiaid cyn ymuno â hwynt yn un dwfn. Yr oedd wedi ymuno â hwy mewn gwaith cyn ymuno yn ffurfiol a hwynt. Ond yn nechreu y flwyddyn 1785, y mae yn ymuno â Seiat y Methodistiaid yn y Bala, ac yn myned o gwmpas i bregethu yn eu capelau, ac yn ymroddi i lafurio gyda hwy o hyny i'r diwedd. Ar y cyntaf, nid oedd ef ei hun yn ystyried. hyn yn doriad hollol ar ei gysylltiad ag Eglwys Loegr, ond daeth cyn hir i weled mai felly yr oedd. Yn raddol, medd wrthym, aethum mor bell i'r gwaith fel nas gallwn yn gydwybodol droi fy nghefn arno a'i adael.