Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhan fwyaf o leoedd. O'r diwedd, daeth gŵr yn aelod o'r eglwys oedd newydd gael prydles ar ddarn o dir. Yr oedd y gŵr hwn newydd adeiladu tý ar ran o'r tir, ac wedi cau o'i amgylch, o ddeutu erw a hanner. Cynnygiodd i'r cyfeillion crefyddol le i adeiladu capel yn ymyl talcen ei dŷ. Derbyniwyd ei gynnygiad; ac adeiladwyd y capel gyda phrysurdeb; 'canys yr oedd y bobl â chalon ynddynt i weithio. Ond yr oedd parson y plwyf wedi ffromi yn aruthr, a'r goruchwyliwr hefyd, o herwydd fod y capel wedi ei adeiladu ar ei ystad. Er hyny, yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn llwyddiannus. Arferid ty gŵr a roddodd y tir fel tŷ capel, o herwydd fod y naill yn gorphwys ar bwys y llall. Rhyw ddiwrnod, yn ffair Llanerchymedd, meddwodd y gŵr crybwylledig, a chynnhyrfodd yr holl ffair; ac mewn canlyniad, diarddelwyd of o'r eglwys. Er mwyn dial ar yr eglwys, o herwydd ei ddiarddeliad, aeth at y goruchwyliwr i'w hysbysu nad oedd y capel wedi ei adeiladu ar ei dir ef; ond ar lain o dira gauwyd i mewn ganddo yn chwanegol at y mesur a berthynai iddo, ac nad oedd neb yn gwybod hyny ond efe ei hun yn unig. Wedi edrych ar y map, gwelid hyny yn eglur. Y canlyniad o hyn fu, i'r goruchwyliwr alw ar fwnwyr Mynydd Parys i ddyfod gyda'n trosolion i chwalu y capel. Gwnaed hyn mewn ychydig oriau, a chladwyd yr eisteddleoedd i Fynydd Parys, gyda bwriad o'u rhoddi o dan forthwyl yr arwerthwr. Richard William Meredith oedd y gŵr a waeddodd, 'Bobl, edrychwch beth yr ydych yn myned i wneyd!' &c. Y gwaethaf, yn ein barn ni, yn yr helynt hwn oedd, y Methodist twyllodrus a meddw. Dangosodd y gwrthwynebwyr bob parodrwydd i wasgu hyd y gallent ar y Methodistiaid. Cafodd y crybwylledig John Pritchard ei dynu gerfydd ei glust o renc y gwirfoddoliaid yn Amlwch, am iddo esgeuluso myned i'r eglwys y Sabbath. Rheswm y boneddwr a roes y sarhâd arno dros yr hyn a wnaeth ydoedd, 'Yr wyf yn deall dy fod ti yn un o ddysgyblion y Prophwyd Elias,' gan gyfeirio, y mae yn debyg, at y Parch. John Elias. Isel fu yr achos yn y capel newydd dros rai blynyddoedd. Syrthiodd digalondid ar Richard William Meredith, Glas grug bach, nes iddo fyned at y Prophwyd