Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe wêl ein darllenwyr ein bod yn dosranu yn agos i gant a hanner o flynyddoedd—oes Methodistiaeth yn Môn—i bum cyfnod, a phob un yn meddu ei esgob. Credwn fod yn fantais i gyfundeb fel yr eiddom ni feddu arweinydd; ond cael gŵr uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r cyffredin o'r frawdoliaeth. Nid ei fod ef yn chwennychu y blaen, ac yn mynu bod yn esgob ; ond fod y Cyfarfod Misol yn rhoddi y blaen, ac yn ei wthio ef i'w le . Anffortunus iawn fyddai meddwl fod yn rhaid i rywun fod yn arweinydd—bod yn frenin yn mysg ei frodyr, heb fod nac arweinydd na brenin i'w gael mewn gwirionedd yn yr un hwnw. Gobeithiwn na wêl Methodistiaid Môn y dydd pan y byddant yn myned i eneinio arnynt frenin , fel yr aeth y prenau yn nammeg Jotham i gynnyg y frenhiniaeth i'r olewydden, a'r ffigysbren, a hwythau yn gwrthod y frenhiniaeth . Ond yr oedd raid i'r prenau gael brenin . ' Yna yr holl brenau a ddywedasant wrth y fieren , Tyred di, teyrnasa arnom ni. Ni fynai yr olewydden na'r ffigysbren deyrnasu ; ond mynai y fieren wneyd. Buasai yn llawer gwell i'r prenau fod heb frenin , na bod y fieren yn frenin arnynt. Byddai yn well i Fethodistiaeth Môn fod heb frenin, na gosod unrhyw fieren o ddyn yn frenin arnynt. Y mae y dosraniad yma wedi achosi i ni fwy o lafur; ond credwn y bydd yr hanes yn fwy dyddorol i'w ddarllen fel y mae.

Fe wêl ein darllenwyr ein bod wedi gadael ' Mr.' allan yn ei berthynas â'r Methodistiaid. Gallwn sicrhau ein darllenwyr mai nid o ddiffyg parch i foneddigion a fu, ac sydd, yn mysg y Methodistiaid, y gwnaethom hyn ; ond o herwydd rhyw reswm nad ydyw o bwys i neb ond i ni ein hunain.