Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni byddai ond ofer i ni enwi yr holl feusydd yn y rhai y buom yn casglu defnyddiau i ysgrifenu y gyfrol hon. Digon yw dywedyd i ni loffa yn yr holl feusydd oedd o fewn ein cyrhaedd.

Chwithau, y beirniaid dysgedig, na fyddwch galed wrth un nad yw yn hơni dim iddo ei hun yn y gyfrol hon ond cydwybodolrwydd i wirionedd, a chariad cryf at Fethodistiaid Môn yn gyffredinol; ac yn enwedig at y rhai fuont yn hynod ac yn ddefnyddiol yn eu hoes, ond sydd bellach yn mron wedi myned i dir anghof.

Heb law cadw coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, gobeithiwn y bydd y gyfrol hon, o dan fendith Duw , yn peri i Fethodistiaid yr oes hon ddiolch i Dduw, a chym . meryd cysur, yn yr olwg ar y cyfnewidiadau mawrion sydd wedi cymmeryd lle er cychwyniad Methodistiaeth yn Môn. Yn y cyfnod cyntaf, byddai yr hen bregeth wyr yn cael eu herlid, a'u dwyn ger bron ustusiaid hedd wch, fel pe buasent yn ddrwg -weithredwyr; ond yn y pummed cyfnod, y mae amryw o'n blaenoriaid yn ynadon heddwch, un yn aelod seneddol, un arall wedi bod, ac yn bresennol yn arglwydd raglaw y sir. ' Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni . '

'Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion ; am hyny yr ydym yn llawen. ' Dymunwn, o'n calon, heddwch Methodistiaeth Môn yn yr oesoedd a ddêl. ' Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau . Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion, dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti!

Y mae rhai gwallau wedi llusgo ii mewn, yn benaf yn y cydseiniaid cyfnewidiol, er pob gwyliadwriaeth — megys, P yn lle b, b yn lle p, p yn lle ph, a d yn lle dd. Yn