Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Eglwys Esgobaethol Sefydledig. Nid oedd yr un Ymneilldüwr o fewn yr ynys yn nechreu y ganrif ddiweddaf — yr holl Fonwysion yn aelodau o'r Eglwys Wladol. Nid oedd yr un o'r enwadau Anghydffurfiol wedi cael ei fodolaeth yn yr holl sir — dim ond yr Eglwys Esgobaethol o fewn y tir. Yr oedd yr holl ynys wedi bod yn meddiant yr Eglwys Sefydledig Brotestanaidd am gant a hanner o flynyddau — er dyddiau y Frenhines Elizabeth. Yn nghorph y blynyddau hyny, cafodd bob llonyddwch a thawelwch i geisio moesoli, crefyddoli, ac efengyleiddio y trigolion. Nid oedd neb yn y plwyfydd yn ammheu awdurdod apostolaidd y clerigwyr i ddysgu crefydd i'r plwyfolion. Nid oedd ganddynt Ymneillduaeth , nac unrhyw hereticiaeth (?) arall i ymladd yn ei erbyn, ond yr oeddynt yn cael eu holl amser i ymladd yn erbyn anfoesoldeb ac anghrefyddoldeb yr ynyswyr. Nid oedd raid i'r offeiriaid gymmhell eu gwrandawyr i haelioni crefyddol, mewn trefn i adeiladu lleoedd i addoli, ac i gynnal y weinidogaeth; o blegid yr ydym yn cael fod yn yr ynys 75 o leoedd addoliad yn nechreu y ganrif ddieddaf: ac yr oedd y ddegfed ran o holl gynnyrchion y tir yn cael ei roddi at gynnaliaeth gweinidogion yr eglwysi. Yr oedd y degwm , yn sicr, yn ddigonol i gyn nal y weinidogaeth , fel nad oedd raid i'r clerigwyr ym rwystro gyda negeseuon y bywyd hwn. Yr oedd eu bara a'u dwfr yn sicr iddynt hwy a'u teuluoedd, ac yr oedd holl gyfoethogion y sir yn aelodau yn yr eglwys.

Oni allesid yn naturiol ddisgwyl fod y Monwysion yn foesol a chrefyddol? Oni allesid galw yr ynys yn ‘ fryn tra ffrwythlawn , yn Isle of Bliss , ac yn ‘ Baradwys?' lë, yn fwy felly na'r un o siroedd eraill Cymru, gan nad oedd Ymneillduwr o'i mewn i lesteirio y clerigwyr yn eu hymdrechion i efengyleiddio (?) y trigolion , fel yr oedd yn siroedd eraill Cymru, rai blynyddau cyn eu hymddangosiad yn Môn. Oni allesid disgwyl nad oedd yma yr un anialwch heb flodeuo fel rhosyn , na'r un diffaethwch heb flodeuo fel gardd yr Arglwydd , na'r un crasdir heb fod yn llyn, na thir sychedig heb fod yn ffynnonau dyfroedd? Yn sicr, gallesid disgwyl fod prophwydoliaeth Esaiah wedi ei chyflawni yn Môn — fod y blaidd yn trigo gyda'r oen,