Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r llewpart yn gorwedd gyda'r myn, y llô hefyd, a chenaw y llew, a'r anifail brâs, ynghyd â'r fuwch, a'r arth, yn pori ynghyd, eu llydnod yn cyd -orwedd, y llew fel yr ych yn pori gwellt, y plentyn sugno yn chwareu wrth dwll yr asp, neb, na dim , yn drygu nac yn dyfetha yn holl fynydd sancteiddrwydd Duw , a'r ynys yn llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn töi y môr.

Ond i'r gwrthwyneb yr oedd pethau yma. Gallasai Duw ddywedyd am Ynys Môn y pryd hwn, fel y dywedodd am Ierusalem ac Iudah-- A mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dŷg hi rawn gwylltion.' Ac fel y dywed y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool, yn Methodistiaeth Cymru , 'Yr ynys dywyll' ydoedd o ddifrif. Fel y bu gynt yn dywyll gan goedwigoedd, a chan ofer goeledd Derwyddiaeth, felly yr oedd yn awr gan anwybodaeth ,' Y mae disgrifiad Esaiah o dir Naphthali a Zabulon , Galilea y cenhedloedd, yn ddisgrifiad cywir hefyd o Ynys Môn cyn sefydliad Methodistiaeth ynddi ' Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angeu. 'Y tywyllwch oedd yn gorchuddio yr holl ynys, a'r fagddu yr holl bobl. Yr oedd y clerigwyr yn dywyll, yn anwybodus, ac yn anfoesol fel y bobl. Tywysogion deillion i'r deillion oeddynt; y dall yn tywys y dall, a'r ddau yn syrthio i'r un ffos; ïe, i bob math o ffosydd — ffosydd rhy ffiaidd i'w henwi. Gallesid dywedyd am olynwyr yr apostolion yn Môn y pryd hwn, fel y dy wedir am yr offeiriaid Iuddewig, 'Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith.' Ië , y mae disgrifiad Zechariah o'r bugail ynfyd yn ddisgrifiad cywir o fugeiliaid ysbrydol Môn yn y cyfnod sydd o dan sylw — 'Yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuangc, ni feddyginiaetha y briwedig a fyddo yn sefyll, ni phortha, ond bwyty y brâs, ac a ddryllia eu hewinedd.' Y mae yn ammhossibl meddwl am eglwys wedi suddo yn îs nag oedd yr Eglwys Sefydledig yn Môn cyn toriad gwawr Methodistiaeth. Yr ydym yn edrych ar yr Eglwys Babaidd yn yr Iwerddon, ac mewn gwledydd eraill, yn isel, ac y mae hi felly; ond yr oedd yr Eglwys