Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sefydledig Brotestanaidd yn Môn mor isel a llygredig, os nad yn îs, ac yn fwy llygredig. Yr oedd hi mor lygredig fel y credwn fod Mab Duw yn gwadu ei berthynas â hi wedi ei chwydu hi allan o'i enau! Yr oedd hi yn fwy o synagog Satan nag o eglwys i Iesu Grist. Yr oedd yr ynys yn ei thrigolion wedi suddo i ddyfnder anwybodaeth ac anfoesoldeb. Ychydig iawn oedd yn gallu darllen, hyfrydwch y trigolion fyddai adrodd chwedleuon am dylwyth teg, cwn annwn, ymddangosiad ysbrydion, drychiolaethau, canwyllau ac adar cyrph. Yr oeddynt yn arfer swyn — gyfareddion dewiniaeth, ac yn offrymu i ffynnonau. Nid oedd yr ofergoeledd hyn wedi gadael yr ynys yn hollol pan y ganwyd ni. Yr ydym yn cofio clywed am rai yn myned i sir Gaernarfon at y dewin, mewn trefn i gael gwybod pwy fyddai wedi lladrata eu heiddo, ac am rai yn cael eu diarddel oddi wrth y Methodistiaid am ymgynghori â dewiniaid. Yn lle ymgynnull mewn addoldai i wrandaw yr efengyl yn cael ei phregethu, i weddïo ar Dduw, i ganu ei fawl, ac i ddarllen ei Air, ymgynnullai yr ieuengctyd i gynnal nosweithiau llawen, i ganu gwagedd, a dawnsio yn sŵn tannau y delyn a'r crwth, i chwareu cardiau a disiau, ac i yfed a meddwi.

Ië, arferid y gyfeddach a meddwdod ar adegau o fedyddiadau, priodasau, ac angladdau. Mewn ffeiriau Gwyl Mabsantau, a chynnulliadau ar brydnawniau Sabbothau, ymladdent yn y modd mwyaf creulawn a ffyrnig, nid yn unig â dyrnau moelion, ond â ffyn, nes y byddai y gwaed yn llifo i'r ddaear. Nid oedd heddgeidwaid yn y cymmydogaethau y pryd hwnw i gadw trefn fel sydd yn ein dyddiau ni. Yr oedd treulio y Sabbath mewn campau llygredig wedi bod yn yr eglwys y boreu bron mor grefyddol ag oedd myned i'r llan y rhan flaenaf o'r dydd; o blegid yr oedd Llyfr y Chwareuon bron mor gyssegredig a Llyfr Gweddi Cyffredin, gan iddo gael ei gyhoeddi yn amser y brenin Siarl I., trwy ddylanwad yr Archesgob Laud, a'i gyd-urddasolion. Byddai y chwareuon hyn yn cael eu cynnal yn y mynwentydd weithiau, lleoedd a ystyrid yn rhy gyssegredig, hyd yn ddiweddar, i Ymneilldüwr gael darllen ychydig o adnodau o'r Beibl, a myned i weddi wrth gladdu y marw. A chofier y byddai