Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y clerigwyr yn blaenori yn y chwareuon hyn, fel yn y gwasanaeth dwyfol yn yr eglwysi yn y boreu.

Y mae yn anhawdd gan rai Ymneillduwyr ac Eglwyswyr yn y dyddiau hyn gredu y gallai y fath anghyssondeb ag a ddisgrifiasom fod. Ond y mae sefyllfa foesol a chrefyddol aml wlad lle nad oes ond yr Eglwys Sefydledig, a hono yn Babyddol, yr un peth ag oedd sefyllfa foesol a chrefyddol Môn yn y cyfnod sydd genym o dan sylw. Nid oedd ond yr enw Protestanaidd yn gwneyd yr Eglwys Sefydledig yn Môn yn ddim gwell nag ydyw yr Eglwys Sefydledig Babyddol mewn ambell wlad y dyddiau hyn.

Os nad oedd yr Eglwys Sefydledig yn Môn, cyn sefydliad Methodistiaeth, wedi troi yn fethiant truenus, y mae yn rhaid fod ganddi amcanion annheilwng o eglwys i'r Arglwydd Iesu Grist. Os moesoli ac efengyleiddio y trigolion oedd ei hamcan, ni fu methiant mwy mewn unrhyw wlad erioed. Ein hamcan yn y bennod hon yn galw sylw ein gilydd at sefyllfa foesol a chrefyddol ein hynys cyn sefydliad Methodistiaeth ynddi, ydyw ein cael i weled ac i ddiolch i Dduw am ei ddaioni yn ymweled â ni fel trigolion Môn, â chodiad haul o'r uchelder, ac er mwyn i ni edrych ar y graig y'n naddwyd, ac ar geudod у ffòs y'n cloddiwyd o honynt, a chydnabod mai yr Arglwydd a wnaeth anialwch ein hynys fel Eden, a'i diffaethwch fel gardd yr Arglwydd, mewn cymmhariaeth i'r peth oedd yn nechreuad y ganrif ddiweddaf. Fe allai y byddai yn deg i ni ddwyn prawfion o wirionedd yr hyn yr ydym yn ei ysgrifenu am sefyllfa foesol a chrefyddol ein hynys. Yn y Drysorfa am fis Medi, yn y flwyddyn 1812, cyhoeddedig o dan olygiad y Parch. Thomas Charles, B. A., o'r Bala, ceir yn yr ymddiddan rhwng Scrutator a Senex y disgrifiad canlynol:— 'Cyn B. A. 1730, yr oedd holl wlad Môn o un grefydd; nid oedd yno ddim pleidiau, ond pawb yn cyrchu i eglwys ei blwyf yn o ddyfal; ac yr oeddynt yn rhagori yn hyn ar drigolion llawero barthau Cymru. Ond yr oeddynt yn gyffredin trwy y wlad yn dra thywyll, anystyriol, ac ofergoelus, a sôn mawr yn eu plith am y tylwyth teg. Byddai sôn mawr am bregeth yn y llan, os digwyddai i hyny fod, gan mor anaml y