Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

GYD-FETHODISTIAID HOFF YN MÔN,

Y mae yn debyg eich bod yn disgwyl cael ein rhesymau dros i ni ymgymmeryd â'r gorchwyl pwysig o geisio ysgrifenu hanes Methodistiaeth Môn. Y mae genym rai digonol i foddhau ein hunain ; ond a oes genym rai digonol i'ch boddhau chwi, sydd bwngc arall. Un o'r ystyriaethau a'n cymmhellodd i gychwyn yr anturiaeth yw , y teimlad oedd mewn llawer yn y sir fod angen am rywbeth o'r natur yma. Cofus genym glywed ein diweddar frawd, SAMUEL DEW , Porthaethwy, yn sôn am anfon at berchenog Methodistiaeth Cymru i ofyn iddo i argraphu hyny o hanes Methodistiaeth Môn a geir yn y llyfr hwnw , yn gyfrol fechan , mewn pris y gallai corph Methodistiaid Môn ei chael. Hefyd, rhoddodd Cyfeisteddfod Cyfarfod Llenyddol Amlwch wobr o bedair punt, yn y flwyddyn 1886, am y traethawd goreu ar y pwngc; ac y mae yn rhaid fod aelodau y cyfeisteddfod uchod yn teimlo fod gwir angen llyfr o'r natur yma. Ystyriaeth arall a'n cymmhellodd i ymaflyd yn y gwaith ydyw am mherffeithrwydd hanes Methodistiaeth Môn yn Methodistiaeth Cymru. Ni cheir ynddo ond hanes o ddeutu dwy-ar-hugain o eglwysi Môn, pan y mae yn Môn dros bedwar ugain o eglwysi erbyn hyn ; ac ni cheir hanes y ddwy ar hugain hyny ynddo ond yn y cyfnodau cyntaf. Y mae yn hawdd deall, erbyn hyn, yr achos o'r ammherffeithrwydd hwn ; sef, fod yr awdwr parchus yn methu